Newyddion S4C

Parc syrffio yn Eryri i gau ar unwaith

01/09/2023
Parc Antur Eryri

Fe fydd parc syrffio poblogaidd ger Conwy yn cau ar unwaith yn dilyn cyhoeddiad brynhawn Gwener. 

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, fe gadarnhaodd Parc Antur Eryri eu bod am gau ar unwaith yn sgil pwysau ariannol. 

Mae’r ganolfan, a arferai gael ei galw yn ‘Surf Snowdonia’ ger pentref Dolgarrog yn Nyffryn Conwy, yn cynnwys llyn artiffisial, gyda pheiriant arbennig sy’n cynhyrchu tonnau ar gyfer bob math o chwaraeon dŵr.

Dywed y datganiad fod y peiriant tonnau, sy’n hanfodol i weithgareddau’r parc, wedi costio “ffortiwn” i’r busnes yn sgil gwaith cynnal a chadw, yn ogystal â chyfnodau o amser segur pan nad oedd y peiriant yn cael ei ddefnyddio gan gwsmeriaid.

Ond mae’r cwmni yn parhau i “edrych at y dyfodol” gydag awgrymiadau o “bennod gyffrous newydd” yn ystod y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd: “Gyda chalon drom, rydym yn cyhoeddi ein bod yn cau'r Parc ar unwaith. I bawb sydd wedi bod yn rhan o’r antur, rydym yn flin dros ben. 

“Rydym yn hynod o siomedig bod ein gweithwyr rhagorol yn colli eu swyddi. Ond y realiti trist yw – er gwaethaf y llawenydd a'r antur a gafwyd gan nifer fawr o bobl, mae'r peiriant wedi costio ffortiwn i ni rhwng cyfnodau segur wrth i waith atgyweirio ddigwydd, ac felly rydym wedi colli busnes.

“Yn bwysicach oll, mae’r broses wedi achosi i’r cwmni golli ein enw da gydag ein gweithwyr, sef y bobl rydym wedi gweithio’n agos gyda nhw ers dechrau’r daith hon yn 2015.

“Rydym yn ystyried ein hopsiynau ar gyfer pennod newydd gyffrous, o 2024 a thu hwnt. 

“Diolch i bawb am eich dealltwriaeth yn ystod y cyfnod anodd yma,” meddai. 

Ychwanegodd y byddai ad-daliadau ar gael i unrhyw un sydd eisoes wedi talu i ymweld â’r parc yn y dyfodol.

Llun: Croeso Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.