Cyn-gadet gyda'r Awyrlu wedi difrodi murlun i goffau Windrush ym Mhort Talbot
Clywodd llys fod cyn gadét o’r Awyrlu wedi difrodi murlun i goffau Windrush gyda symbolau Natsïaidd a'i fod wedi dychmygu creu gwn a lladd bachgen ysgol.
Cyfaddefodd y llanc 17 oed o dde Cymru gyfres o droseddau terfysgol a difrod troseddol, ac fe ymddangosodd yn llys yr Old Bailey ddydd Gwener.
Clywodd y llys sut y cafodd y llanc ei gyfeirio at raglen ddad-radicaleiddio Prevent y gwanwyn diwethaf gan Gadetiaid Awyr yr Awyrlu Brenhinol.
Fis Medi diwethaf, cafodd ei ddiarddel o’r grŵp ar ôl iddo anfon delweddau at gadetiaid eraill o Swastika wedi’i baentio ar ei frest a’i wahardd hefyd o Instagram am bostio delweddau hiliol a Natsïaidd.
Aeth y llanc, a oedd yn 16 oed ar y pryd, ymlaen i baentio graffiti ar furlun Windrush ym Mhort Talbot, sy’n dathlu cymuned Caribïaidd y dref, ar ddau achlysur ym mis Hydref a mis Tachwedd.
Cafodd aelodau’r gymuned eu ffieiddio ar ôl i sawl swastika, yr ymadrodd “ardal Natsïaidd” symbol goruchafiaeth gwyn 1488” ymddangos ar y murlun oriau ar ôl ei gwblhau.
Murlun Windrush
Mae’r murlun yn darlunio Donna Campbell, nyrs o genhedlaeth Windrush a fu farw yn ystod y pandemig, a’i mam Lydia, sy’n cael ei hadnabod fel Mrs Campbell yn ei chymuned, gyda delwedd o ddraig Gymreig a baner Jamaica.
Roedd y bachgen yn ei arddegau wedi brolio am ei droseddu ar blatfform Telegram.
Ar Hydref 31 y llynedd fe osododd bom mwg yn adeilad The Queer Emporium yng Nghaerdydd, gan achosi difrod i'r llawr.
Cafodd yr emporiwm ei thargedu am ei fod yn ganolfan ar gyfer y gymuned LHDT+ leol.
Amlinellodd yr erlynydd Lucy Jones sut y cafodd dyfnder ideoleg asgell dde’r diffynnydd ei ddarganfod ar ôl iddo gael ei arestio ar 8 Tachwedd y llynedd.
Wrth chwilio yn ei ystafell wely, daeth yr heddlu o hyd i gasgliad o gyllyll, reiffl awyr a llenyddiaeth antisemitig.
Roedd copi o Mein Kampf gan Adolf Hitler wedi ei brynu iddo gan ei fam ac yn cynnwys nodiadau llawysgrifen y diffynnydd, meddai Ms Jones.
Pledio'n euog
Ym mis Mehefin, plediodd y llanc yn euog i wyth cyhuddiad – dau o feddu ar ddogfen ar derfysgaeth, tri o ddosbarthu dogfen ar derfysgaeth a thri chyhuddiad o ddifrod troseddol.
Roedd un o’r dogfennau terfysgol a rannodd y llanc â llanc arall yn rhoi manylion am wneud bomiau, ymosod ar linellau pŵer a herwgipio swyddogion yr heddlu, yn ogystal â dathlu llofruddwyr torfol enwog.
Wrth ei amddiffyn, dywedodd David Elias KC fod rhieni’r diffynnydd yn y llys a’u bod yn “gwbl gefnogol iddo”.
Dywedodd eu bod yn meddwl bod ganddo gyllyll ar gyfer “crefft maes” yn y cadetiaid ac yn gwybod dim am ei weithgareddau ar-lein eithafol.
Dywedodd Mr Elias: “Roedd (y diffynnydd) yn aelod o lu’r cadetiaid ac fe ganiataodd ei dad iddo ddefnyddio’r reiffl awyr hwnnw. Cafodd targed ei sefydlu yn yr ardd iddo allu ymarfer yr hyn yr oedd eisoes yn ei wneud gyda’r cadetiaid.”
Ychwanegodd y dylai ei gasgliad o fygydau nwy gael ei weld yng nghyd-destun ei ddiddordeb yn yr Ail Ryfel Byd.
Roedd y diffynnydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth ac yn ystod y pandemig roedd yn ei chael yn haws siarad â phobl a gwneud ffrindiau ar-lein, dywedwyd wrth y llys.
Dywedodd y Barnwr Ustus Baker ei fod yn achos cythryblus a dywedodd wrth y diffynnydd y byddai ei ddedfryd yn cael ei gohirio tan 21 Medi.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.
Llun: Gwasanaeth Erlyn y Goron