Cais i ddymchwel safle fferm ger Abersoch ar gyfer unedau gwyliau
Fe allai safle fferm ger Abersoch gael ei ddymchwel er mwyn datblygu unedau gwyliau.
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais llawn yn galw am ddymchwel tri thŷ ac adeiladau allanol er mwyn gwneud lle i saith tŷ gwyliau.
Byddai'r cynlluniau, ar gyfer Fferm Cim, ym Mwlchtocyn ym Mhen Llŷn, hefyd yn adleoli a newid defnydd carafán at ddibenion gwyliau.
Mae'r cynlluniau, a gyflwynwyd gan Mark Roberts, Harold Roberts & Son Limited, yn ymwneud â thri eiddo - Cim, Cim Canol a Chim Bach - ynghyd â thir ac adeiladau ar Fferm Cim.
Mae datganiad yn disgrifio’r tri eiddo fel “anheddau marchnad agored annibynnol” sydd wedi cael eu defnyddio fel llety gwyliau.
Dywed y ddogfen: “Maent yn anheddau sylweddol sydd ynghlwm wrth ei gilydd.”
Mae gan bob eiddo bum ystafell wely, ac mae'r safle hefyd yn cynnwys pedair sied i'r gogledd ddwyrain o'r ffermdai a ddefnyddir ar gyfer storio carafanau teithiol, a charafan sefydlog wedi ei lleoli ger y siediau presennol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer gwyliau.
Mae adeilad allanol carreg “eisoes yn elwa o ganiatâd cynllunio ar gyfer ei drawsnewid yn uned wyliau sydd wedi ei weithredu”, dywed y cynlluniau.
Dymchwel tri eiddo
Ar ôl dymchwel y tri eiddo, byddai tri thŷ newydd yn cael eu hadeiladu yn eu lle.
Byddent yn yr un lleoliad, yn darparu pedair ystafell wely yr un.
Yn rhan ogledd-ddwyreiniol safle'r cais, byddai'r pedair sied storio bresennol yn cael eu dymchwel gan osod pedair uned gwyliau newydd yn eu lle gyda'r garafán sefydlog bresennol yn cael ei hail leoli a gosod un mwy modern yn ei lle.
Byddai pob un o'r unedau gwyliau newydd yn ddeulawr o uchder ac yn darparu tair ystafell wely.
Byddai ffordd fynediad newydd hefyd yn cael ei hadeiladu i wasanaethu'r ysgubor wedi'i haddasu y mae caniatâd cynllunio wedi'i ddiogelu ar ei chyfer, mae'r cynlluniau hefyd yn nodi.
Mae’r cynnig yn datgan: “Mae 48 o welyau wedi’u darparu yng Nghim, Cim Canol a Chim Bach ar hyn o bryd…a thrwy ailddatblygu’r safle byddai cyfanswm o 48 o welyau hefyd yn cael eu darparu, gan arwain at ddim newid yng nghyfanswm y nifer o welyau.”
Mae'r bwriad hefyd yn nodi y byddai'r safle yn cael ei ddatblygu a'i redeg gan fusnes teuluol lleol sy'n gweithredu ystod o safleoedd llety twristiaeth ym Mhen Llŷn ac ar draws Gwynedd gan gyflogi pobl leol.