Newyddion S4C

Cynnal angladd brawd a chwaer fu farw mewn damwain a laddodd bedwar yn Sir Tipperary

01/09/2023
Angladd Tipperary Iwerddon

Fe gafodd angladd brawd a chwaer ei gynnal yn nhref Clonmel, Iwerddon, ddydd Gwener. 

Bu farw Luke McSweeney, 24, a Grace McSweeney, 18, mewn damwain yn Sir Tipperary, Iwerddon, ar ddydd Gwener 25 Awst. 

Roedd Mr McSweeney yn gyrru ei chwaer a’i thair ffrind i ddal bws pan wyrodd y car drosodd gan daro wal yn Clonmel.

Bu farw dwy ffrind i'r brawd a'r chwaer hefyd, sef Nicole Murphy, 18, a Zoey Coffey, 18. 

Fe gafodd angladd y ddwy ei gynnal yn gynharach yn yr wythnos.

Roedd y tair ar eu ffordd i ddathlu canlyniadau eu harholiadau diwedd ysgol, oedd wedi eu cyhoeddi yn gynharach ddydd Gwener.

Roedd Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins a Gweinidog Addysg llywodraeth y Weriniaeth, Norma Foley ymhlith y galarwyr yn Eglwys Sant Pedr fore Gwener.

Fe ymgasglodd torfeydd ar hyd y strydoedd wrth i ddwy hers yrru ochr yn ochr trwy'r dref i'r eglwys.

Fe wnaeth holl siopau a busnesau'r dref gau yn ystod y gwasanaeth hefyd.

Wrth agor y gwasanaeth dywedodd y Tad Billy Meehan:“Rydyn ni’n gobeithio ac yn gweddïo gyda’n gilydd y byddwn ni’n gallu symud ymlaen.

“Mae’n arwydd o barch bod yr holl siopau a busnesau yn ein tref ar gau am yr ychydig oriau hyn."

Fe wnaeth hefyd ddiolch i'r gymuned am gefnogi teuluoedd y bobl ifanc fu farw. 

Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth cannoedd o bobl fynychu gwylnos i alarau marwolaethau y pedwar. 

Cafodd blodau, nodiadau a chanhwyllau eu gadael wrth wal Ysgol Uwchradd Loreto, lle aeth Ms Murphy i'r ysgol ac sydd rownd y gornel o leoliad y ddamwain.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.