Trychineb Hillsborough: Yr heddlu yn cytuno i setliad ariannol i ddioddefwyr

Mae Heddlu De Sir Efrog wedi cytuno i setliad ariannol i wneud iawn am honiadau ffug gafodd ei gwneud gan y llu wedi trychineb Hillsborough.
Bydd dros 600 o bobl, gan gynnwys teuluoedd dioddefwyr a goroeswyr y trychineb, yn derbyn yr iawndal.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i fod o gymorth i’r rhai a ddioddefodd trawma a ddaeth o ganlyniad i’r digwyddiad, yn ogystal â thalu am gwnsela.
Bu farw 96 o bobl yn y digwyddiad yn stadiwm Hillsbourough yn Sheffield nôl yn 1989.
Mewn cwest newydd i’r marwolaethau, fe wrthododd y rheithgor achos yr heddlu, oedd yn dadlau mai’r cefnogwyr wnaeth achosi’r trychineb trwy gamymddwyn.