Cyhoeddi enwau stormydd y flwyddyn nesaf
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhyddhau'r rhestr o enwau stormydd y flwyddyn 2023/2024.
‘Elin’ yw’r unig enw Cymreig sydd ar y rhestr eleni.
Mae gweision sifil, gwyddonwyr a hefyd cymeriad llyfr comig enwog yn ysbrydoliaeth.
Ymysg yr enwau eraill mae Debi, Ciaran a Regina – ar ôl pobol sy’n gweithio i amddiffyn y cyhoedd rhag tywydd eithafol.
Hefyd ar y rhestr mae'r enw Minnie, ar ôl Minnie the Minx o'r comig Beano a Jocelyn, ar ôl yr astroffisegydd y Fonesig Jocelyn Bell.
Mae Swyddfa Dywydd y DU, ynghyd â gwasanaeth dywydd yr Iseldiroedd a Met Eireann yn Iwerddon yn enwi stormydd sydd yn debygol o gael effaith ‘canolig’ neu ‘uchel’ ar bobl dros y flwyddyn nesaf.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gall hyn helpu dangos difrifoldeb y storm i’r cyhoedd ac yna helpu pobl adnabod pa gamau diogelwch fydd angen cymryd.
Mae’r tri sefydliad yn cydweithio i lunio’r rhestr cyn y tymor nesaf, sy’n rhedeg o fis Medi i fis Awst.
Mae Regina, sydd yn gweithio i dîm Rhybuddio a Hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi ysbrydoli un o’r enwau.
Dywedodd: “Mae cymaint o bobl yn meddwl na fydd llifogydd yn digwydd iddyn nhw.
"Y peth cyntaf y gallwn ni i gyd ei wneud yw gwirio a yw ein hardal mewn perygl o lifogydd cyn i’r glaw ddechrau disgyn.”
Y rhestr lawn:
- Agnes
- Babet
- Ciaran
- Debi
- Elin
- Fergus
- Gerrit
- Henk
- Isha
- Jocelyn
- Kathleen
- Lilian
- Minnie
- Nicholas
- Olga
- Pie
- Regina
- Stuart
- Tamiko
- Vincent
- Walid