Cwestiynu ‘gwerth’ ysgol Gymraeg newydd yn Sir Fynwy
Mae cynghorwyr wedi cwestiynu’r ‘gwerth’ o sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn Sir Fynwy.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn dweud ei fod wedi ymrwymo i agor trydedd ysgol Gymraeg yn y sir, ac yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i sefydlu ysgol Gymraeg ddechreuol ar safle Ysgol Overmonnow yn Nhrefynwy, o fis Medi 2024.
Bydd yr ysgol yn cael ei sefydlu ar safle Overmonnow, lle bydd yr ysgol cyfrwng Saesneg yn parhau ar agor.
Ond mae Cyngor Cymuned Dyffryn Gwy wedi lleisio ei gwrthwynebiad i’r cynllun, ar sail “oedran hynach boblogaeth Sir Fynwy a’r niferoedd isel iawn o ddisgyblion newydd i ysgolion Llandogo a Kymin View.”
Maent yn poeni y gallai ysgol ychwanegol leihau’r niferoedd yn ysgolion yr ardal, sydd eisoes yn wynebu pwysau staffio a chyllidebol.
Dywedodd y cyngor cymuned: “Mae cynghorwyr yn cwestiynu’r gwerth y byddai ysgol newydd yn ei roi, gan fod y Gymraeg eisoes yn cael ei ddysgu fel rhan o gwricwlwm yn y ddwy ysgol sydd eisoes yn bodoli, a bod e’n annhebygol y byddai diddordeb gan y teuluoedd Seisnig sydd yn yr ardal.
“O ganlyniad, mae cynghorwyr yn gwrthwynebu’r ysgol arfaethedig.”
Ymrwymiad
Ysgol y Fenni ydi’r ysgol gyfrwng Gymraeg agosaf yn yr ardal ar hyn o bryd.
Ond mi fyddai agor ysgol newydd yn golygu symud dalgylch y disgyblion sydd yn byw yn Nhrefynwy a’r ardal gyfagos, o Ysgol y Fenni i’r ysgol newydd yn Overmonnow.
Ni fydd y cyngor yn ariannu trafnidiaeth disgyblion newydd yr ardal i Ysgol y Fenni bellach, a hynny hyd yn oed os yw eu brodyr neu chwiorydd eisoes yn mynd i'r ysgol.
Ond mi fydd y cyngor yn parhau i ariannu trafnidiaeth i’r disgyblion sydd eisoes yn mynd i'r ysgol - taith o 37 milltir, yna ac yn ôl.
Mewn adroddiad i gabinet y cyngor, dywedodd Will McLean, y prif swyddog plant a phobl ifanc, fod y cyngor yn anelu i gyrraedd 120 o ddysgwyr yn nosbarth derbyn yr ysgol erbyn 2031.
Byddai’r ysgol yn ‘elfen greiddiol’ o strategaeth iaith Gymraeg y cyngor, meddai, er mwyn cynorthwyo nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedwyd hefyd fod teithiau hir i’r ysgol yn ‘un o’r prif resymau mae rhieni yn ei roi dros beidio dewis addysg cyfrwng Gymraeg i’w plant.’
“Er bod yr awdurdod lleol yn deall pryderon rhieni, rydym yn argymell fod trafnidiaeth yn cael ei ddarparu i gyd-fynd â’r polisi presennol, er mwyn sicrhau fod yr ysgol newydd yn sefydlu ei hun yn y gymuned leol,” meddai'r adroddiad.