Newyddion S4C

Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi torri pob cysylltiad gyda chyn-lywydd yn dilyn camau disgyblu

Newyddion S4C 31/08/2023

Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi torri pob cysylltiad gyda chyn-lywydd yn dilyn camau disgyblu

Yn dilyn ymchwiliad i’w ymddygiad, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi torri pob cysylltiad gyda chyn-lywydd yn dilyn camau disgyblu.

Mae Philip Pritchard yn gyn-lywydd, aelod o'r cyngor ac yn gyfranddalwr gyda'r gymdeithas. Ond mae ei gysylltiad â'r gymdeithas nawr wedi dod i ben yn llwyr.

Dyw'r BBC  ddim wedi gallu cael gafael ar Mr Pritchard heddiw i gael ei ymateb  i'r cyhoeddiad.

Ym mis Mawrth eleni, fe ddatgelodd Newyddion S4C bod Philip Pritchard yn un o dri aelod o gyngor y gymdeithas bêl-droed oedd wedi cael eu gwahardd wedi honiadau o ymddygiad annerbyniol.

Daeth canolwyr annibynnol corff Sport Resolutions i'r casgliad iddo fe wneud sylwadau misogynystaidd oedd yn gwahaniaethu ar sail rhyw mewn cinio cyn gêm.

Pan ofynnodd Newyddion S4C am ymateb Mr Pritchard i'r honiadau ym mis Mawrth eleni, fe wadodd iddo wneud sylwadau o'r fath. Ond dywedodd iddo bledio'n euog gan y byddai talu costau cyfreithiol ar gyfer y tribiwnlys annibynnol "wedi costio £12,000".

Dywedodd Mr Pritchard "Mae yna awyrgylch hwyliog mewn digwyddiadau cyn gemau, gyda digonedd o banter." Dywedodd mai'r "peth diwethaf roedd e am ei wneud" oedd achosi pryder a gofid i unrhyw un, gan ddweud ei fod yn "cael hwyl a sbri pan gerddodd y fenyw ifanc yma mewn i'r ystafell. Mae'n rhaid iddi gamddehongli rhywbeth. Roedd tystion ar yr un bwrdd a fi oedd yn dweud nad oedd hyn wedi digwydd".

"Yr unig reswm i fi gyfaddef oedd y byddai wedi costio'n ddrud i fi fel arall."

Panel Annibynnol

Mewn datganiad heddiw, dywedodd cymdeithas bêl-droed Cymru "Daethpwyd a chamau disgyblu pellach gan y gymdeithas bêl-droed ym mis Mai 2023 o ganlyniad i sylwadau a wnaethpwyd gan Mr Pritchard i'r BBC. Cafodd y mater hwn hefyd ei gyfeirio at Banel Annibynnol.

"Wedi ystyried yr holl ffeithiau, penderfynodd y Panel bod diweddu cysylltiad Mr Pritchard gyda'r gymdeithas ar unwaith yn gosb addas."

Mae dadlau am wahaniaethu wedi bod yn bwnc llosg yn y byd pêl-droed dros yr wythnosau diwethaf wedi i lywydd ffederasiwn pêl-droed Sbaen, Luis Rubiales, gusanu'r chwaraewr benywaidd Jenni Hermoso ar ei gwefus wedi iddyn nhw ennill cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Dywedodd Hermoso nad oedd hi wedi cydsynio i'r gusan.

Er i Mr Rubiales fynnu na ddylai ymddiswyddo, gan ddadlau i'r chwaraewraig gydsynio i'r gusan, mae e nawr wedi ei wahardd gan FIFA.

Mae ffederasiwn pêl-droed Sbaen wedi cadarnhau bod ymchwiliad mewnol ar y gweill.

Yn y gorffennol, mae prif weithredwr cymdeithas bêl-droed Cymru, Noel Mooney, wedi dweud bod "sicrhau Cyfartaledd, Amrywiaeth a bod pêl-droed yng Nghymru yn gynhwysol yn flaenoriaeth".

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.