Enwi dyn fu farw ar ôl i gar fynd i mewn i'r dŵr ym Marina Abertawe
Mae'r heddlu wedi enwi dyn fu farw ar ôl i gar fynd i mewn i'r dŵr ym Marina Abertawe fore Mercher.
Bu farw Andrew Harding, 52 oed, o Abertawe yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i’r safle toc wedi 10.00 fore Mercher yn dilyn adroddiadau bod cerbyd wedi mynd i’r dŵr ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Evans “Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
“Mae CCTV yn dangos bod y car, Audi du, yn teithio ar gyflymder pan aeth dros rwystr ac i mewn i ardal wedi ei bedestraniddio, cyn mynd trwy reiliau ac i mewn i'r marina.
“Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesboniadwy ar hyn o bryd ac mae ymholiadau’n parhau i ganfod yr amgylchiadau llawn y tu ôl i’r digwyddiad.”
Yn ôl yr heddlu, mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal ddydd Gwener 1 Medi, i ddarganfod achos y farwolaeth.
Llun: John Davies/Creative Commons.