Colli swyddi yng Nghasnewydd wedi i Wilko fethu dod o hyd i brynwr
Mae disgwyl i nifer o weithwyr cwmni Wilko yng Nghasnewydd gael eu diswyddo ddydd Llun wedi i gais i brynu'r cwmni fethu.
Gallai hyd at 1,600 o weithwyr y cwmni golli eu gwaith yn fuan , gyda 269 o swyddi yn eu canolfannau cymorth yn Worksop a Chasnewydd yn diflannu'r wythnos nesaf.
Daw wedi i ddarpar brynwr fethu’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cynnig.
Dyma'r unig brynwr oedd yn cynnig diogelu holl swyddi Wilko, sy'n cyflogi 12,500 o bobl o mewn 400 o siopau a chanolfannau. Mae ganddyn nhw 27 siop yng Nghymru.
Fe fydd staff cyllid a chyfreithiol ymysg y rhai fydd yn colli eu swyddi.
Yn ol PwC, y gweinyddwyr sy'n gyfrifol am geisio dod o hyd i brynwr, doedd dim cynnig arall fyddai'n diogelu Wilko “yn ei gyfanrwydd.”
Wrth fynegi siom, dywedodd undeb y GMB bod hyn yn golygu y byddai'r broses o ddiswyddo yn "ailgychwyn bron ar unwaith.”
Ond ychwanegodd yr undeb eu bod yn parhau yn “obeithiol” y daw cynnig arall fydd yn golygu diogelu siopau a gwefan Wilko.