Streiciau i effeithio teithwyr trên yng Nghymru
Gallai teithwyr yng Nghymru wynebu oedi ar rai gwasanaethau trên ddydd Gwener a dydd Sadwrn wrth i yrwyr trenau a gweithwyr eraill gynnal streiciau.
Fe fydd aelodau Undeb ASLEF yn streicio ddydd Gwener ac fe fydd aelodau Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) o 14 o gwmnïau trenau yn gweithredu'n ddiwydiannol dydd Sadwrn.
Daw hyn wrth i'r anghydfod hir dros gyflogau ac amodau gweithio barhau.
Er nad yw Trafnidiaeth Cymru yn rhan o'r gweithredu, mae teithwyr yn cael eu rhybuddio i wirio gwasanaethau cyn cychwyn ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Fe fydd rhai newidiadau i amserlen Trafnidiaeth Cymru, gyda rhai gwasanaethau yn debygol o fod yn hynod o brysur, oherwydd y bydd cwtogi sylweddol iawn ar amserlenni cwmnïau eraill.
Dywedodd Mick Whelan, ysgrifennydd cyffredinol ASLEF: “Rydym yn benderfynol o gael codiad cyflog teg i ddynion a merched sydd heb gael un ers pedair blynedd tra bod chwyddiant wedi cyrraedd ffigurau dwbl.
"Mae ein haelodau, yn gwbl resymol, eisiau gallu prynu nawr yr hyn y gallent ei brynu yn ôl yn 2019.”
Gwasanaethau fydd yn newid
- Bydd trenau o dde Cymru i Fanceinion Picadilly yn cychwyn yn Stockport yn unig (oherwydd pryderon gorlenwi) a fyddan nhw ddim yn stopio yn Wilmslow.
- Bydd trenau o Fanceinion Piccadilly i Dde Cymru yn codi yn Stockport yn unig (oherwydd pryderon gorlenwi) a fyddan nhw ddim yn stopio yn Wilmslow.