Newyddion S4C

Marwolaethau Trelái: Heddwas yn destun ymchwiliad troseddol am yrru'n beryglus

31/08/2023
heddlu trelai.jpg

Mae heddwas o dde Cymru yn destun ymchwiliad troseddol am yrru’n beryglus ar ôl dilyn dau berson ifanc yn eu harddegau mewn fan cyn i’r ddau farw mewn damwain beic trydan yn Nhrelái, Caerdydd, ym mis Mai, meddai Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Bu farw Harvey Evans, 15, a Kyrees Sullivan, 16, mewn gwrthdrawiad ychydig wedi 18:00 ar ddydd Llun, 22 Mai. 

Fe wnaeth eu marwolaethau arwain at sawl awr o derfysg ac anhrefn ar y strydoedd, ac fe gafodd gwylnos ei chynnal yn ddiweddarach mewn teyrnged i'r bechgyn.

Ym mis Mehefin eleni fe gyhoeddodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu eu bod wedi cyflwyno hysbysiadau camymddwyn difrifol i ddau heddwas mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r Swyddfa bellach wedi cadarnhau fod gyrrwr y fan yn destun ymchwiliad troseddol.

Dywedodd cyfarwyddwr Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, David Ford: “Mae ein hymchwiliad annibynnol yn datblygu'n dda ac rwyf am ddiolch unwaith eto i’r gymuned leol am y gefnogaeth a ddarparwyd i’n hymchwiliad, gan gynnwys trwy rannu tystiolaeth teledu cylch cyfyng.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.