Newyddion S4C

Ffermwyr yn apelio ar berchnogion cŵn i'w cadw ar dennyn wedi i anifeiliaid farw

Gatiau Parc Y Faenol

Mae ffermwyr wedi apelio ar berchnogion  cŵn i'w cadw ar dennyn wedi i anifeiliad fferm gael eu lladd mewn dau ddigwyddiad o fewn wythnos yn y gogledd.

Yn gynharach yr wythnos yma, bu farw pedair buwch feichiog o "anafiadau catastroffig" ar ol disgyn i lawr llethr serth ar Ynys Môn.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn amau bod ci yn rhydd yn yr un cae â'r gwartheg ym Maenaddwyn, ger Llannerchymedd. 

Mewn digwyddiad arall, cafodd chwech o ieir eu lladd gan gi ar stad Parc y Faenol ger y Felinheli bnawn dydd Llun. Mae'r heddlu'n dweud bod y ci du, o fath spaniel, wedi ei adael yn rhydd ar y tir lle roedd yr ieir.

Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r ddau ddigwyddiad, ac wedi apelio i'r cyhoedd am wybodaeth.

Wrth ymateb i'r ddau ddigwyddiad,  dywedodd llefarydd ar ran NFU Cymru: "Mae ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yn drallodus iawn i bawb dan sylw ac mae’n ddinistriol i deuluoedd ffermio golli anifeiliaid iachus a chynhyrchiol, a hynny’n sgil ymosodiadau sy’n hawdd i’w hatal. 

“Mae’n hollbwysig bod perchnogion cŵn yn cadw eu hanifeiliaid ar dennyn o amgylch da byw. 

“Mae llawer o berchnogion o’r gred na fydd eu hanifeiliaid anwes yn achosi niwed i anifail arall, ond gall cŵn bach hyd yn oed achosi peryg, niwed, neu farwolaeth i dda byw.”

Un o'r gatiau i stad Parc y Faenol (Chris Andrews/Wikimedia Commons). 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.