Tîm pêl-rwyd Dreigiau Celtaidd yn newid enw i Ddreigiau Caerdydd
Mae tîm pêl-rwyd Super League Dreigiau Celtaidd wedi newid ei enw i Ddreigiau Caerdydd cyn y tymor newydd.
Mae’r tîm wedi cael ei adnabod fel y Dreigiau Celtaidd ers i'r gynghrair Super League cael ei ffurfio 18 mlynedd yn ôl.
Ond mae swyddogion y clwb yn dweud eu bod nhw eisiau creu mwy o gysylltiad â phrifddinas Cymru, lle maen nhw'n chwarae eu gemau cartref.
Dywedodd Vicki Sutton, Prif Swyddog Gweithredol Dreigiau Caerdydd a Phêl-rwyd Cymru: "Caerdydd yw lle rydyn ni'n ymarfer, a lle rydyn ni'n chwarae.
"Dyma'n pencadlys a'n cartref. Mae'r ddinas yn frand cryf rydyn ni am ei ddefnyddio i wella ein proffil ein hunain."
'Straeon newydd'
Ycwanegodd Vicki Sutton bod yr ailfrandio yn gyfle i greu straeon newydd.
“Rydyn ni’n falch o'n hanes, ond mae’n bryd i ni wneud rhai straeon newydd fel Dreigiau Caerdydd.
"Fe fyddwn ni’n cyhoeddi ein carfan ar gyfer tymor 2024 yr wythnos nesaf, ac fel rhan o hynny fe ofynnon ni i bob aelod o’r tîm beth maen nhw’n ei garu am Gaerdydd i ddangos yr hoffter sydd gennym ni i gyd at y ddinas rydyn ni’n ei galw’n gartref.”
Llun: Netball Super League