Newyddion S4C

Coeden yn disgyn ar gartref llywodraethwr Florida yn fuan wedi iddo rybuddio am gorwynt

31/08/2023
Corwynt

Fe wnaeth coeden ddisgyn ar gartref llywodraethwr talaith Florida yn fuan wedi iddo rybuddio pobl am gorwynt nerthol yn yr ardal.

Disgynnodd y goeden dderwen 100 oed ar gartref Ron DeSantis a'i wraig Casey yn Tallahassee.

Ychydig cyn i'r goeden ddifrodi'r eiddo, roedd Mr DeSantis wedi rhybuddio trigolion y dalaith am beryglon corwynt nerthol Idalia.

Mewn neges ar blatfform X, oedd gynt yn cael ei adnabod fel Twitter, dywedodd Casey DeSantis ei bod hi a'i gŵr gartref ar y pryd ond nad oedd neb wedi eu hanafu.

Mae 250,000 o gartrefi heb drydan yn dilyn y storm, oedd yn wreiddiol wedi ei disgrifio fel corwynt Categori 3 pan laniodd yn Florida.

Cafod ei israddio i fod yn storm Categori 2 yn ddiweddarach, yn hytrach na chorwynt, wrth deithio i gyfeiriad talaith Georgia.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.