Newyddion S4C

Dros 70 wedi marw mewn tân yn Johannesburg, De Affrica

31/08/2023

Dros 70 wedi marw mewn tân yn Johannesburg, De Affrica

Mae 73 o bobl wedi marw mewn tân mewn adeilad yn ninas Johannesburg yn Ne Affrica, gyda 52 yn rhagor wedi eu hanafu.

Digwyddodd y tân mewn adeilad aml-lawr yn ystod y nos.

Nid yw achos y tân wedi cael ei sefydlu hyd yn hyn a'r gred yw y gallai hyd at 200 o bobl fod yn byw yn yr adeilad ar y pryd.

Mae ymdrechion y gwasanaethau brys yn parhau ar y safle fore dydd Iau.

Mae Robert Mulaudzi, llefarydd ar ran y gwasanaethau brys, wedi rhybuddio y gallai nifer y marwolaethau godi ymhellach - gan y gallai mwy o bobl fod wedi cael eu dal y tu mewn i'r adeilad.

Yn ôl adroddiadau lleol, fe allai'r rhai oedd yn byw yn yr adeilad fod yn fudwyr oedd wedi symud yno ar ôl iddo ddod yn wag.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.