Newyddion S4C

Dyn ifanc ‘methu ysgwyd y cywilydd’ ar ôl dioddef twyll rhamant

ITV Cymru 31/08/2023
sgrin ffon

“Wnaethon nhw anfon y fideo at fy ngwaith ac i ffrind, dyna pryd o’n i’n meddwl bod fy mywyd ar ben.” 

Dyma eiriau dyn 24 oed sy’n byw yng Nghaerdydd. Dywedodd y dyn ei fod wedi dioddef twyll 'sextortion' -  math o flacmel lle mae person yn bygwth cyhoeddi gwybodaeth, lluniau neu fideos rhywiol o berson, fel arfer am arian.  

Esboniodd y dyn, sydd ddim am gael ei enwi, wrth ITV Cymru sut y gwnaeth sgamiwr anfon delweddau rhywiol ohono at ei weithle a'i ffrind mewn ymgais i gael arian oddi wrtho. 

“Fe wnes i matcho ‘da rhywun ar dating app. Roedden ni’n siarad am ddiwrnod neu ddau. Gofynnodd am fy nghyfryngau cymdeithasol a'm rhif. Roedd ei lluniau a’i henw yn cyfateb y rhai ar yr dating app

“Roedd e’n teimlo’n normal, eitha flirty, wedyn aeth hi braidd yn rhywiol. Anfonodd hi fideos rhywiol o’i hun. Roedd hi’n pwysleisio nad oedd hi eisiau cael ei lluniau wedi’u rhannu gyda neb, wedyn gofynodd hi i fi anfon rhai yn ôl, ac fe wnes i. 

“Wedyn gofynnodd i mi gael fy wyneb mewn y llun, dylai hynny wedi bod yn ‘alarm bell moment’ ond am ba bynnag reswm fe wnes i.

"Dwi’n meddwl achos ar ôl yr holl straen roedd hi di roi fi dan i gadw’r fideos yn breifat, cefais fy lureio mewn i false sense of security, am wn i.”

Image
llun tecstio
Llun: PA

‘Dyna pryd wnaeth pethau droi’ 

“Roedd rhaid i mi fynd i’r gwaith ar ôl hyn, ond dechreuodd hi roi pwysau arnaf i i gario ymlaen i sextio neu i gael galwad gyda hi. Ges i deimlad off, doeddwn i ddim yn meddwl odd e’n syniad da i siarad rhagor. Dyma pryd wnaeth pethau droi.

“Ges i neges yn dweud ‘Rwy'n mynd i ddifetha dy fywyd os nad wyt ti’n talu ni’ ac yna recordiad sgrin o'r nudes roeddwn i wedi anfon, gyda rhestr o fy nghysylltiadau o gyfryngau cymdeithasol dywedon nhw roedden nhw am anfon y lluniau atyn nhw."

Yn dilyn hyn fe dderbyniodd y dyn alwad ffôn gan y sgamiwr. Esboniodd y sgamiwr, a ddisgrifiodd y dyn fel dyn canol oed, os na fyddai’n talu £800 iddo y byddai’n ‘“difetha ei fywyd.”

“Wnaethon nhw ddanfon y fideo at gyfrif fy ngwaith ac i ffrind.  Dyna pryd o’n i’n meddwl bod fy mywyd ar ben. Yn ddigon ffodus, ro’n i’n nabod y dyn oedd yn rhedeg y cyfrif gwaith ac esboniais iddo fe felly wnaeth e ddileu’r fideos.

“Nes i dreulio gweddill y dydd gyda ffrindiau yn y tŷ, yn crynu ar y llawr yn jyst aros i rywun alw i ddweud bod da nhw’r fideo hefyd.“ 

Fe wnaeth y dyn adrodd am yr hyn ddigwyddodd i’r heddlu. 

Adroddwyd bron i 8,000 o sgamiau rhamant yn y DU i Action Fraud y llynedd, gyda dynion yn eu 20au yn fwyaf tebygol o ddioddef y sgamiau rhamant. 

“Dwi heb ddefnyddio dating apps ers hynny. Dydw i ddim yn cwrdd â phobl newydd mewn ffordd ramantus. 

"Doedd dim byd i awgrymu fod hyn yn mynd i ddigwydd. Dwi’n gwybod nad fy mai i odd hyn, ond dwi methu ysgwyd y cywilydd dwi’n teimlo.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.