Ymchwiliad statudol i droseddau'r llofrudd Lucy Letby
Fe fydd yr ymchwiliad i droseddau’r llofrudd Lucy Letby yn dod yn statudol, medd Ysgrifennydd Iechyd y DU, Steve Barclay.
Mae symud i sylfaen statudol yn rhoi pwerau cyfreithiol i'r ymchwiliad i orfodi tystion, gan gynnwys staff blaenorol a phresennol Ymddiriedolaeth Ysbyty Iarlles Caer, i ddarparu tystiolaeth.
Daw’r penderfyniad yn ar ôl i Letby, 33, gael ei ddedfrydu i dymor oes gyfan am lofruddio saith o fabanod a cheisio llofruddio chwech arall.
Dywedodd Mr Barclay: “Mae’r troseddau a gyflawnwyd gan Lucy Letby yn wirioneddol erchyll, ac mae fy meddyliau yn parhau gyda theuluoedd ei dioddefwyr.
“Yn dilyn ei chollfarn, fe wnaethom gyhoeddi ymchwiliad a dweud y byddai natur yr ymchwiliad hwn yn cael ei siapio gan y teuluoedd.
“Ar ôl trafod hyn gyda’r teuluoedd nawr, byddwn yn lansio ymchwiliad statudol llawn yn rhoi’r pwerau cyfreithiol iddo orfodi tystion i roi tystiolaeth.
“Nod yr ymchwiliad cyhoeddus statudol hwn fydd rhoi’r atebion sydd eu hangen ar deuluoedd a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu.”
Pwerau newydd i farnwyr
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad y bydd barnwyr yn cael pwerau a fydd yn caniatau iddyn nhw orchymyn i droseddwr fynychu gwrandawriad dedfrydu, gan ddefnyddio grym pe bai hynny’n angenrheidiol.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi hynny ar ôl i Lywodraeth y DU addo cyflwyno deddfwriaeth newydd i geisio gorfodi troseddwyr i fynychu eu gwrandawiad dedfrydu.
Daw'r datblygiad wedi i Letby wrthod ymddangos yn ei hachos dedfrydu yn gynharach fis Awst.
Ar y pryd, dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak fod penderfyniad rhai troseddwyr i wrthod wynebu eu dioddefwyr yn "annerbyniol".
O dan y cynlluniau newydd, bydd gan swyddogion yn y ddalfa y pwer i ddefnyddio "grym rhesymol" er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n aros i'w dedfrydu yn ymddangos yn y llys, neu drwy gyfrwng cyswllt fideo.
Gallai'r rhai sy'n anwybyddu gorchymyn y barnwr wynebu dwy flynedd ychwanegol o dan glo.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyfiawnder y DU Alex Chalk yn gynharach eleni bod gweinidogion yn dymuno newid y gyfraith wedi i'r rhai a lofruddiodd Olivia Pratt-Korbel, Zara Aleena a Sabina Nessa wrthod ymddangos gerbron barnwr .
Does dim dyddiad wedi ei gyhoeddi ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd, ond fe gaiff ei chyflwyno "maes o law" medd yr awdurdodau.
Mae Llafur eisoes wedi dweud y byddai'n cefnogi newid o'r fath sy'n golygu y gallai'r gyfraith newid yn y dyfodol agos.