Pêl-droed: Tom Lockyer yn dychwelyd i garfan Cymru wedi llawdriniaeth ar ei galon

30/08/2023
Tom Lockyer

Mae'r amddiffynnwr Tom Lockyer yn ôl yng ngharfan bêl-droed Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn De Corea a'r gêm yn rowndiau rhagbrofol Euro 2024 oddi cartref yn erbyn Latfia, fis Medi.   

Cyhoeddodd Rob Page ei garfan fore Mercher.   

Fe lewygodd Tom Lockyer ar y cae tra'n chwarae dros Luton Town yn rownd derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth fis Mai. Cafodd lawdriniaeth ar ei galon yn ddiweddarach.  

Mae tri chwaraewr sydd heb ennill cap eto yn y garfan, sef Liam Cullen, Tom King a Morgan Fox. 

Nid yw'r asgellwr Leeds United, Dan James, wedi ei gynnwys, oherwydd anaf.

Bydd Cymru'n wynebu De Corea yn Stadiwm Dinas Caerdydd, nos Iau 7 Medi, ac yna'n teithio i Latfia erbyn nos Lun 11 Medi.  

Ar ôl colli'n annisgwyl yn erbyn Armenia fis Mehefin a cholled arall yn erbyn Twrci, mae Cymru yn y pedwerydd safle yng Ngrŵp D yn rowndiau rhagbrofol Euro 2024 gyda phedwar pwynt, ar ôl chwarae hanner eu gemau rhagbrofol.

Un fuddugoliaeth yn unig sydd gan Gymru yn ei 12 gêm ddiwethaf.

LLUN : Asiantaeth Huw Evans    

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.