Newyddion S4C

Ymosodiadau ffyrnig ar Kyiv a rhanbarthau yn Rwsia dros nos

30/08/2023

Ymosodiadau ffyrnig ar Kyiv a rhanbarthau yn Rwsia dros nos

Yn ôl maer prifddinas Wcráin, mae dau o bobl wedi eu lladd ac eraill wedi eu hanafu ar ôl cyfres o ymosodiadau o'r awyr ar Kyiv gan luoedd Rwsia.  

Yn ôl Vitaly Klitschko, mae nifer o adeiladau ar dân yn sgil yr ymosodiadau diweddaraf. 

Ychwanegodd y maer mai dynion oedd y ddau a fu farw, a'u bod wedi eu darganfod mewn adeilad yn ardal Shevchenkivskyi. 

Yn ôl swyddogion milwrol yn Kyiv, hwn oedd yr ymosodiad "mwyaf pwerus" yn y ddinas ers y gwanwyn.  

Ac yn ôl adroddiadau, mae chwe rhanbarth yn Rwsia wedi eu targedu dros nos. Mae'n ymddangos mai dyma'r ymosodiad drôn mwyaf gan Wcráin ar safleoedd yn Rwsia ers i'r rhyfel ddechrau. 

Yn ôl adroddiadau, cafodd maes awyr yn rhanbarth gorllewinol Pskov ei dargedu, gyda rhwng 10 ac 20 drôn yn yr ymosodiad hwnnw. 

Ac mae maer ardal Ruzsky ym Moscow yn dweud fod un drôn wedi ei saethu i'r ddaear yno.

Llun gan Ostorozhno Novosti.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.