Newyddion S4C

Dyn yn teimlo'n 'wych' ar ôl cefnu ar ddeiet figan gan fwyta cig amrwd yn ddyddiol

30/08/2023
Cig heb ei goginio

Mae dyn 20 oed sy'n bwyta cig amrwd yn ddyddiol, yn cynnwys briwgig a chyw iar yn dweud ei fod yn teimlo'n "wych" ar ôl cefnu ar ddeiet figan. 

Mae Jones Hussain o Stockholm yn Sweden wedi bod yn bwyta cig sydd heb ei goginio, yn ddyddiol ers pedair blynedd bellach. Mae'n bwyta cig eidion, cyw iar ac afu amrwd, yn ogystal â chigoedd eraill a physgod sydd heb eu coginio. Ac mae'n dweud nad yw wedi bod yn sâl ar unrhyw adeg.    

Mae'n dweud hefyd nad yw'n poeni o gwbl os yw'r cynnyrch yn "frown neu'n aroglu fymryn".   

Ychwanegodd y byddai'n ddigon hapus yn bwyta unrhyw gig amrwd, o gamel i faedd gwyllt, ond mae'n ffafrio briwgig am ei fod yn "rhad a digon ohono ar gael". Ac mae'n honni fod ei arogl yn well na chyw iar amrwd. 

Penderfynodd Jones Hussain i fwyta cig amrwd, rai misoedd ar ôl cefnu ar ddeiet figan yn 2019, wedi iddo wylio fideo YouTube gyda'r diweddar Aajonus Vonderplanitz a oedd yn faethydd bwyd.

Dywedodd na fyddai'n bwyta cacen hyd yn oed pe bai'n cael cynnig £10,000 oherwydd y siwgwr ynddi, gan bwysleisio ei fod yn 13 oed pan fwytodd gacen ddiwethaf. 

Mae canllawiau'r Gwasanaeth Iechyd fodd bynnag yn nodi fod "coginio cig yn gywir" yn lladd bacteria niweidiol sy'n medru achosi gwenwyn bwyd.

Image
Jones Hussain

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.