Newyddion S4C

Apêl wedi marwolaeth pedair buwch ar Ynys Môn

S4C

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i bedair buwch farw ar ôl cael "anafiadau catastroffig" ar Ynys Môn.

Mae Heddlu Cogledd Cymru yn amau bod ci yn rhydd yn yr un cae â'r gwartheg, a oedd yn cario lloi, ym Maenaddwyn, ger Llannerchymedd.

Fe wnaeth y gwartheg ddisgyn i lawr llethr serth, a chael anafiadau difrifol, rhywbryd rhwng tua 15:00 ar 23 Awst a 10:00 y bore canlynol.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu: “Bydd y digwyddiad hwn yn arwain at golled ariannol sylweddol i’r ffermwr yn ogystal ag effaith emosiynol dod o hyd i’w stoc mewn amgylchiadau mor ofnadwy.”

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu sy'n gwybod bod eu ci yn rhydd yn y cyfnod hwnnw, ac a allai fod yn gyfrifol, i gysylltu â nhw gan ddefnyddio’r cyfeirnod: A135912.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.