Mwy o blant mewn tlodi os bydd toriadau i gyllid cynghorau medd elusen
Mwy o blant mewn tlodi os bydd toriadau i gyllid cynghorau medd elusen
Fe fydd mwy o blant yn byw mewn tlodi os bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â thoriadau i gyllidebau awdurdodau lleol, yn ôl un elusen.
Fe ddangosodd ymchwil diweddar gan BBC Cymru y gallai cynghorau sir Cymru wynebu diffyg cyllid cyfunol o leiaf £394.8m dros y ddwy flynedd nesaf.
Yn ôl elusen Plant yng Nghymru mae gwir bryder am effaith rhagor o doriadau: “Fe allwn ni ddweud gyda sicrwydd fod unrhyw doriadau yn mynd i gael effaith negyddol”, meddai’r Prif Weithredwr Hugh Russell.
“Mae pobl ifanc yn sôn wrthym am fethu a chael mynediad at wasanaethau hanfodol fel bod trafnidiaeth yn rhy ddrud - pobl ifanc felly yn methu allan ar addysg a gwasanaethau iechyd fel engraifft.
“Mae nhw’n dweud wrthym bod nhw’n teimlo nad oes ganddyn nhw le i fynd a ma' hyn yn bryderus tu hwnt”.
Gyda 34% o blant Cymru bellach yn byw mewn tlodi, dywedodd Llywodraeth Cymru fod gwaredu tlodi plant yn flaenoriaeth.
Yn ôl un clwb ieuenctid a gafodd ei sefydlu dros gyfnod yr haf yng Nghaernarfon, mae pryder dybryd am gyllid hirdymor ac effaith unrhyw doriadau ar blant a phobl ifanc.
Dros gyfnod yr haf, mae yna groeso cynnes yng nghanolfan Porthi Dre i bobl ifanc bob nos Fercher.
Unwaith yr wythnos mae bwyd a gweithgareddau am ddim i bobl ifanc yn cynnwys sesiynau DJ’io, creu smoothies a sglefrfyrddio.
Y nod ydy cynnig cyfleoedd am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb, ac mae hynny eisoes yn profi’n boblogaidd, yn ôl y Cynghorydd Dawn Lynne Jones.
“Da ni’ ‘di cael ymateb gwych, mae niferoedd ni wedi bod rhwng 20- i 40 bob wythnos”, meddai.
“Tywydd... haul, gwynt a glaw - mae nhw ‘di bod yn dŵad yma”.
Mae’r clwb yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc fyddai fel arall heb ddim i'w wneud.
Yn ôl Millie mae’n lle i “aros, a charjio ffons, cael wifi a bwyd am ddim”.
Fel arfer oedda ni’n “ista yn bus stops neu fatha mynd i Mcdonalds neu wbath”.
Ar yr olwg gyntaf dydy’r cynllun yma sy’n cael ei ariannu gan gyfres o noddwyr fel Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Caernarfon, Hwb a’r heddlu, ddim yn torri tir newydd, ond eto mae’n rhannol yn mynd i’r afael â thlodi yn yr ardal, wrth gynnig profiadau a bwyd am ddim.
Yn ôl adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan mae dros 2,500 o bobl ifanc yn Arfon yn byw mewn tlodi.
Er bod y ffigwr hwnnw (21%) yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol, mae’r gwaith ymchwil yn nodi nad yw’r ystadegau yn cynnig darlun clir o ddifrifoldeb tlodi’r ardal.
Gyda bygythiad i gyllidebau llywodraethau lleol ledled Cymru, mae un cynghorydd yng Ngwynedd yn dymuno gweld gwasanaethau i blant yn cael eu diogelu.
“Mae gynno ni grant ar hyn o bryd sydd i barhau chwech wythnos a da ni’n mynd o wythnos i wythnos”, meddai’r Cynghorydd Dewi Jones.
“I ni fel prosiect cymharol newydd mae’n rhaid i ni edrych ar hyn, os yda ni’n penderfynu fod hwn am fod yma am flynyddoedd i ddod, mae rhaid edrych ar cyllido ac mae hynny am fod yn her”.
Gyda chyllidebau llywodraeth leol yn debygol o gael eu torri fwy fyth dros y blynyddoedd sydd i ddod mae’n poeni y bydd y sgil effeithiau yn bellgyrhaeddol.
“Nid jest llai o dorri gwair neu codi sbwriel - yr hyn da ni am weld llai ohono fo ydi gwasanaethau sydd yn mynd ati i daclo tlodi yn cael eu torri... ac ia, pethau fel hyn ella yn sicr”.
Yn ôl yr arbenigwr Dr Hefin Gwilym, Darlithydd Polisi Cymdeithasol Prifysgol Bangor, mae’n anochel y bydd toriadau yn arwain at ragor o dlodi.
“Mae rhain yn doriadau, ar ben toriadau sydd wedi digwydd yn barod a fydd o’n cael effaith fawr ar blant a phobl ifanc”.
“Mae mynd i ganolfannau pobl ifanc yn helpu nhw i ddatblygu sgiliau, i fod mewn lle saff a dod i nabod pobl ac i ddod oddi wrth unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl - yn y tymor hir mae’n bwydo i cycle o dlodi lle fydd y genhedlaeth nesaf yn dlawd," ychwanegodd Dr Gwilym.
“O ran canolfannau pobl ifanc mae tua 50% wedi diflannu ers 2010, a ma hynny’n swm aruthrol a felly does dim lle i neud toriadau."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae mynd i’r afael a thlodi plant yn “flaenoriaeth”.
Dywedodd llefarydd eu bod yn darparu “£13m eleni i helpu gwasanaethau ieuenctid ac mae hynny yn fwy na theirgwaith yn fwy nag yn 2018.
“Rydym hefyd wedi cyhoeddi £1m yn rhagor i 18 o sefydliadau gwirfoddoli.
“Er hyn mae nifer o’r grymoedd sydd eu hangen fel budd-daliadau lles a phwerau ariannol yn gorwedd yn San Steffan”.