Cwest yn agor i farwolaeth Sara Sharif wrth i'r chwilio barhau am ei thad ym Mhacistan
Clywodd cwest yn Surrey nad yw crwner wedi dod i gasgliad am achos marwolaeth merch 10 oed sydd wedi arwain at ymchwiliad rhyngwladol.
Cafodd corff Sara Sharif ei ddarganfod mewn tŷ ar Ffordd Hammond yn Woking, wedi i'w thad Urfan Sharif ffonio'r heddlu o Bacistan ar 10 Awst.
Er na allai'r crwner Simon Wickens gadarnhau achos ei marwolaeth, dywedodd ei bod yn debygol o fod yn farwolaeth "annaturiol".
Cadarnhaodd y crwner fod Sara Sharif wedi ei geni yn Slough, Berkshire, ar 11 Ionawr 2013.
Yna cafodd y cwest ei ohirio tan 29 Chwefror 2024, er mwyn galluogi yr heddlu yn Surrey i gynnal eu hymchwiliad.
Ychwanegodd Mr Wickens ei fod yn "cydymdeimlo'n ddiffuant" â phawb a fu'n rhan o fywyd byr Sara.
Mae'r heddlu yn credu fod Mr Sharif, 41, ei bartner Beinash Batool, 29, a'i frawd Faisal Malik, 28, wedi ffoi i Islamabad ddiwrnod cyn i gorff Sara Sharif gael ei ddarganfod. Fe wnaethon nhw deithio yno gyda phum plentyn rhwng blwydd a 13 oed, yn ôl yr heddlu.
Mae'r achos wedi arwain at ymchwiliad eang sy'n cynnwys swyddogion yr heddlu o Loegr a Phacistan.
Mae'r heddlu yn Surrey yn dal i apelio am wybodaeth er mwyn ceisio casglu yr holl fanylion am fywyd Sara cyn ei marwolaeth.
Cafodd yr ymchwiliad ei ymestyn ar ôl i archwiliad post-mortem ddatgelu fod Sara wedi dioddef nifer fawr o anafiadau, gyda phosiblrwydd fod yr anafiadau hynny wedi ymddangos dros "gyfnod estynedig" o amser.
Mae mam Sara, Olga Sharif, yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.