Newyddion S4C

Arweinwyr ffederasiwn pêl-droed Sbaen yn galw ar Luis Rubiales i ymddiswyddo

29/08/2023
cusan Rubiales Hermoso

Mae arweinwyr Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen yn galw ar y Llywydd Luis Rubiales i ymddiswyddo dros "gusan amhriodol."

Yn ôl adroddiadau o Sbaen, mae erlynwyr wedi agor ymchwiliad rhagarweiniol, a fydd yn ystyried a oedd cusan Llywydd Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen, Luis Rubiales, yng Nghwpan y Byd yn ymosodiad rhywiol.

Mae Mr Rubiales, 46, wedi ei feirniadu ar ôl iddo gusanu’r blaenwr Jenni Hermoso ar ei gwefusau wedi buddugoliaeth Sbaen yn rownd derfynol Cwpan y Byd Menywod. 

Brynhawn Llun, fe wnaeth Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen (RFEF) gynnal cyfarfod brys wedi i'w llywydd gael ei wahardd gan FIFA oherwydd y gusan. 

Mewn datganiad nos Lun, dywedodd y RFEF fod "yr ymddygiad annerbyniol wedi achosi difrod difrifol i ddelwedd pêl-droed Sbaeneg", gan ofyn i Mr Rubiales i ymddiswyddo fel Llywydd.

Mae Luis Rubiales wedi gwrthod ymddiswyddo.

Mae chwaraewyr a llu o hyfforddwyr timau menywod wedi galw arno i gamu o'r neilltu. Fe wnaeth 11 aelod o'r tîm hyfforddi ymddiswyddo ddydd Sul.

Mae 81 o chwaraewyr hefyd wedi cadarnhau na fyddan nhw'n chwarae i dîm cenedlaethol Sbaen nes i Rubiales adael ei swydd.

Ympryd

Daeth cadarnhad ddydd Llun fod mam Rubiales, Angeles Bejar, wedi cloi ei hun mewn eglwys yn Sbaen ac yn cynnal ympryd mewn protest am driniaeth mae ei mab wedi derbyn.

Dywedodd wrth asiantaeth newyddion Sbaen EFE y byddai'r brotest yn un "barhaol, drwy'r dydd a'r nos."

Gyda'r nos, ymgasglodd cannoedd o bobl yng nghanol Madrid mewn protestiadau gan grwpiau ffeministaidd i gefnogi Hermoso ac yn erbyn Rubiales.

Mae FIFA wedi dwyn achos disgyblu yn erbyn Rubiales wedi'r gusan yn dilyn y fuddugoliaeth dros Loegr.

Dywedodd Rubiales, 46, y byddai'n defnyddio'r achos yn ei erbyn gan FIFA i ddangos ei fod yn ddieuog.

Ni all llywodraeth Sbaen ddiswyddo Rubiales ond mae wedi beirniadu ei weithredoedd ac yn ceisio ei wahardd trwy ddefnyddio gweithdrefn gyfreithiol o flaen tribiwnlys chwaraeon.

Llun: BBC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.