Newyddion S4C

Sw yn dathlu genedigaeth asyn prin

29/08/2023
Asyn

Mae sw yn Hampshire yn dathlu genedigaeth asyn gwyllt Affricanaidd, sydd yn un o famaliaid mwyaf prin y blaned erbyn hyn.  

Cafodd yr ebol asyn sydd heb enw eto, ei eni yn Sw Marwell ger Caerwynt ar 20 Awst i'w rieni Nadifa a Lars.

Yn ôl Darren Ives, uwch geidwad y sw, mae'r enedigaeth yn bwysig am mai oddeutu 200 yn unig o'r creaduriaid sy'n dal i fyw yn y gwyllt.

Dywedodd: “Mae'r tîm yn hynod o gyffrous, ar ôl aros am flwyddyn, i weld yr ebol yn cael ei eni. Ac mae'n arbennig i ni am nad ydym wedi gweld ebol asyn gwyllt Affricanaidd yn cael ei eni ym Marwell ers 2020.

“Mae'r ebol yn edrych yn dda ac yn iach," ychwanegodd.  

Dywedodd llefarydd ar ran Sw Marwell: “Mae genedigaeth un o famaliaid mwyaf prin y blaned wedi codi calonnau ceidwaid y sw'r wythnos hon."

Mae'r asyn yn un o fridiau brodorol Eritrea, Ethiopia a Somalia, ond maen nhw'n cael eu targedu gan lewod Affricanaidd a bleiddiaid Ethiopia. Maen nhw hefyd yn cael eu hela gan bobl ar gyfer y gadwyn fwyd, ac mae hynny wedi arwain at eu dirywiad yn y gwyllt. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.