Coleg heddlu i drin y Gymraeg â’r Saesneg yn ‘gydradd’
Mae’r Coleg Plismona wedi cyhoeddi cynllun newydd sy’n amlinellu sut y byddant yn rhoi mwy o flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg dros y pedair blynedd nesaf.
Ymhlith rhai o amcanion y cynllun mae denu mwy o ymgeiswyr sy’n siaradwyr Cymraeg i’r heddlu.
Fe fydd rhai o ddogfennau allweddol y corff hefyd yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg, gyda’r coleg yn nodi y byddan nhw’n trin y Gymraeg a’r Saesneg yn “gydradd”.
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i luoedd Cymru gydymffurfio â safonau’r iaith Gymraeg, ond nid oes unrhyw orfodaeth ffurfiol i’r Coleg Plismona gyflwyno cynllun statudol o’r fath.
Dywedodd y coleg fod y cynllun yn cael ei gyflwyno mewn cyfnod o “recriwtio cynyddol”, gyda’r nod o hwyluso dewis iaith ymgeiswyr.
Mae’r coleg wedi derbyn ceisiadau gan luoedd Cymru i sicrhau fod dogfennau megis cod moeseg a deunydd marchnata ar gael yn y Gymraeg.
Serch hynny, mae’r cynllun yn datgan y bydd rhai o ddogfennau’r coleg yn parhau yn Saesneg yn unig am y tro, gydag adroddiad blynyddol y coleg ymhlith y rhain.
‘Darn pwysig o waith’
Cafodd y cynllun ei arwain gan Gethin Jones, Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru: “Rydw i wir wedi mwynhau gweithio gyda'r Coleg i ddatblygu'r darn pwysig hwn o waith.
"Er nad oes unrhyw rwymedigaeth ffurfiol i'r Coleg gael cynllun, mae'n wych eu bod yn cefnogi'r Gymraeg fel hyn.
‘Croesawu cefnogaeth ychwanegol’
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl, Richard Debicki, o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae'n wych gweld y cynllun yn dwyn ffrwyth ac rwy'n gwybod y bydd Heddlu Gogledd Cymru a chydweithwyr plismona ledled Cymru yn croesawu'r gefnogaeth ychwanegol y bydd hyn yn ei rhoi i gymunedau lleol a'n cydweithwyr sy'n siarad Cymraeg”.