Dartiau: Gerwyn Price yn ennill dwy gystadleuaeth Ewropeaidd mewn un penwythnos
Fe wnaeth Gerwyn Price ennill dwy gystadleuaeth Ewropeaidd yn Yr Almaen dros y penwythnos.
Cafodd cystadlaethau Pencampwriaeth y Chwaraewyr 17 ac 18 eu cynnal yn Hildesheim ac roedd y Cymro ar ei orau gan ddod i'r brig ar y ddau ddiwrnod.
Dyma oedd y bedwaredd a'r bumed gystadleuaeth PDC i Price ennill eleni.
Dechreuodd Price ei benwythnos buddugoliaethus yn erbyn Radek Szaganski fore Sadwrn, cyn cyrraedd y rownd derfynol yn erbyn Josh Rock.
Enillodd Price 8-5 yn erbyn y dyn o Ogledd Iwerddon.
Fe wnaeth sicrhau buddugoliaeth 8-1 yn erbyn y gŵr ifanc o'r Iseldiroedd Gian van Veen ddydd Sul i orffen penwythnos i'w gofio iddo.
Yn dilyn ei fuddugoliaethau, dywedodd Price nad oedd wedi chwarae ar ei orau.
“Doeddwn i ddim yn chwarae ar fy ngorau heblaw am ychydig o gemau ar y diwedd. Roeddwn yn sgorio'n dda drwy'r dydd, ond yn methu lot o doubles.
“Byddai’n well gen i chwarae’n dda iawn, hyd yn oed os ydw i’n colli weithiau.
“Os ydw i'n ennill cystadleathau pan dwi'n chwarae fy C-game, pan fydd fy A-game yn dod allan dwi'n gobeithio bod hynny'n ddigon da hefyd, oherwydd mae rhai pobl yn fy nghuro i pan dwi'n chwarae fy ngorau."