Newyddion S4C

Angen i'r heddlu ymchwilio i bob trosedd medd yr Ysgrifennydd Cartref

28/08/2023
Suella Braverman - Llun- Senedd y DU

Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi dweud bod angen i'r heddlu ddilyn pob trywydd wrth ymchwilio i droseddau bach a mawr.

Daw sylwadau Suella Braverman wedi i heddluoedd ymrwymo i ddilyn pob “trywydd rhesymol” mewn ymdrech i wella ymchwiliadau a gostwng cyfraddau trosedd.

Mae'n rhan o wythnos o gyhoeddiadau polisi ar drosedd sydd wedi’u cynllunio gan Lywodraeth y DU.

Fe wnaeth y corff sydd yn gosod safonau gyhoeddi canllawiau i swyddogion yng Nghymru a Lloegr i ystyried yr holl dystiolaeth posib - gan gynnwys lluniau o deledu cylch cyfyng, clychau drws a chamerau dash.

Bydd y cyhoedd felly’n gwybod beth y gallant ei ddisgwyl gan yr heddlu pan fyddant yn adrodd trosedd fel byrgleriaeth neu ladrad, yn ôl y Coleg Plismona.

Ychwanegodd y bydd hyn yn gwneud y gwasanaeth yn fwy cyson ar draws rhanbarthau ac yn datrys mwy o droseddau.

Tra bod yr addewid yn berthnasol i bob trosedd, fe wnaeth Suella Braverman ddweud ei bod yn “annerbyniol” bod troseddau fel dwyn cerbydau a difrod troseddol yn cael eu trin fel rhai “llai pwysig”.

Dywedodd: “Mae’r heddlu wedi gwneud cynnydd o ran atal troseddau ar draws y wlad gyda throseddau fel byrgleriaeth, lladrata a dwyn cerbydau i lawr 51% ers 2010.

“Er gwaethaf y llwyddiant hwn, ers i mi gael fy mhenodi fel Ysgrifennydd Cartref dwi wedi clywed gormod o adroddiadau gan ddioddefwyr lle nad yw’r heddlu wedi gweithredu ar wybodaeth defnyddiol oherwydd bod troseddau fel dwyn ffonau symudol a lladradau ceir yn cael eu hystyried yn llai pwysig – mae hynny’n annerbyniol.

“Rhaid i droseddwyr gael nunlle i guddio. Mae ymrwymiad yr heddlu heddiw yn gam enfawr ymlaen tuag at ddarparu plismona synnwyr cyffredin sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr y mae’r cyhoedd yn ei haeddu.

“Mae angen sicrhau nad oes gan droseddwyr unrhyw le i guddio. Mae ymrwymiad yr heddlu heddiw yn gam enfawr ymlaen tuag at ddarparu plismona sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr."

Methiant

Mae'r Blaid Lafur wedi dweud bod hwn yn “gyfaddefiad syfrdanol o 13 mlynedd o fethiant y Torïaid ar blismona a throsedd”.

Dywedodd ysgrifennydd cartref cysgodol y blais, Yvette Cooper: "Oherwydd rheolaeth affwysol gan y Torïaid – nid yw dros 90% o droseddau ddim yn cael eu datrys, mae cyfran y troseddau sy’n cael eu herlyn wedi gostwng o fwy na dau draean.

“Yn hytrach na chefnogi ein swyddogion dewr i ddal troseddwyr, mae’r Llywodraeth Geidwadol wedi torri bron i 10,000 o swyddogion, mae na brinder o dditectifs, sydd wedi caniatáu twf oedi echrydus rhwng yr heddlu, y CPS a’r llysoedd.

"Bydd Llafur yn gosod 13,000 o swyddogion ychwanegol yn ôl ar ein strydoedd, yn cynyddu recriwtio ditectifs ac yn sicrhau bod mwy o droseddwyr yn cael eu cyhuddo i gadw ein strydoedd yn ddiogel.”

Diogelwch

Dywedodd y Gweinidog Plismona Chris Philp “nad oes y fath beth â mân drosedd” a bod pob un “yn haeddu ymchwiliad priodol lle mae gywbodaeth i ddilyn”.

“Erbyn hyn mae mwy nag erioed o swyddogion heddlu a chyllid mwy nag erioed wedi mynd i blismona, gan gynnwys ar gyfer mwy o batrolau mewn ardaloedd lle mae trosedd yn broblem," meddai.

"Maen nhw yno i wneud cymunedau'n fwy diogel gyda gwell goleuadau stryd a theledu cylch cyfyng."

Dywedodd Pennaeth y Coleg Plismona, y Prif Gwnstabl Andy Marsh ei fod yn bwysog bod y cyhoedd yn hyderus bydd yr heddlu yn gweithredu ar droseddau.

“Mae’n hollbwysig bod y cyhoedd yn gwybod pan fydd trosedd wedi digwydd y bydd yr heddlu’n ystyried pob trywydd ymholi rhesymol a, lle bo’n briodol, yn arestio’r sawl sy’n gyfrifol.”

“Mae’n golygu bod pob heddlu’n gweithio i’r un safon wrth inni ddod i lawr yn galed ar droseddwyr a darparu’r hyn y mae’r cyhoedd ei eisiau gan eu gwasanaeth heddlu.”

Ychwanegodd: “Bydd ein ffocws ar ble mae gwybodaeth y gallwn weithredu arni.”

Llun: Ty'r Cyffredin

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.