Heddlu Llundain yn ymchwilio i hacio gwybodaeth posib
Mae Heddlu’r Met yn Llundain yn ymchwilio ar ôl datgelu fod “mynediad heb ei awdurdodi” wedi digwydd i wybodaeth ar systemau un o’u cyflenwyr.
Dywedodd y llu fod gan y cwmni wybodaeth am enwau, rhengoedd, lluniau, lefelau gwirio a rhifau cyflogaeth swyddogion a staff.
Ychwanegodd y llu eu bod nhw’n gweithio i ddeall pa wybodaeth, os o gwbl, gafodd ei ddatgelu a’u bod wedi cymryd “mesurau diogelwch” ychwanegol.
Dywedodd cymdeithas staff y llu fod y digwyddiad yn peri “pryder a dicter” iddynt.
Nid yw heddlu’r Met yn medru dweud pryd ddigwyddodd hyn neu faint o swyddogion sydd wedi eu heffeithio ond nad oedd gan y cwmni mewn cwestiwn unrhyw wybodaeth bersonol fel cyfeiriadau, rhifau ffôn neu fanylion ariannol.
Mae’r digwyddiad wedi cael ei gyfeirio at yr Asiantaeth Trosedd Cenedlaethol (National Crime Agency) a’r Comisiynydd Gwybodaeth.