Heddlu yn ymateb i rêf anghyfreithlon ar Fynydd Rhigos
27/08/2023
Mae swyddogion Heddlu de Cymru wedi bod yn delio gyda rêf anghyfreithlon ar Fynydd Rhigos yn Rhondda Cynon Taf yn oriau mân fore dydd Sul.
Dywedodd y llu fod gorchymyn wedi bod mewn grym i gyfeirio pobl o’r ardal a'u bod nhw wedi arestio pump o bobl.
Roedd y llu wedi cynghori pobl i beidio mynychu’r ardal ar droed neu mewn cerbyd am resymau diogelwch cyhoeddus.
Roedd nifer o ffyrdd yn yr ardal wedi eu cau wrth i’r heddlu ddelio gyda’r digwyddiad.
Llun: Cyngor Sir RCT