Dan Biggar i ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl Cwpan y Byd
Dan Biggar i ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl Cwpan y Byd
Mae maswr Cymru, Dan Biggar wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o ddyletswyddau rhyngwladol ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd 2023.
Mae disgwyl i’r chwaraewr 33 oed barhau i chwarae i’w glwb Ffrengig Toulon, yn dilyn ei ymddeoliad rhyngwladol.
Mae Biggar, sy’n gyn-chwaraewr gyda’r Gweilch, wedi chwarae 109 o gemau i Gymru ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf fel chwaraewr 19 oed yn erbyn Canada yn 2008, ac fe fydd yn rhan o’r garfan ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc eleni.
Mae Biggar wedi bod yn rhan o garfan y Llewod ar ddau achlysur, gan wneud ei dri ymddangosiad diwethaf mewn gemau prawf yn Ne Affrica yn 2021.
Cyhoeddodd Biggar ei benderfyniad i ymddeol o’r gêm rhyngwladol cyn i’w golofn ym mhapur newydd The Mail on Sunday gael ei argraffu ddydd Sul.
Mewn erthygl yn y Mail ddydd Sul i gyhoeddi ei fwriad dywedodd Biggar: “Dwi ddim mor wydn â’r llanc ifanc droiodd lan yn gwisgo fflip-fflops.
"Mae gen i deulu ifanc yn Ffrainc nawr a dwi ddim yn credu ei fod yn deg i mi fynd bant ar awyren pob hydref, haf a Chwe Gwlad.
"Mae chwarae 10 i Gymru yn cael effaith ac mae fy nghorff wedi bod yn teimlo mwy fel un 34 oed yn y 12 mis diwethaf.
"Ro’n i eisiau ymddeol ar fy nhermau fy hun neu fe fyddai’n cael fy ngwthio allan gan rywun arall.
"Cefais air gyda Warren Gatland ddydd Iau ac nid oedd yn syndod iddo.
"Ond dwi ddim wedi symud i Ffrainc i eistedd yn yr haul chwaith. Rwy' am fynd allan gyda chymaint o bang â phosib."
Mae Biggar hefyd yn hyderus am obeithion yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc mis nesaf.
Dywedodd: “Un peth sy’n sicr mi fydd y tîm yma yn brwydro yn Ffrainc. Mae gennym garfan ifanc gyda thipyn o hyder ac rwy’n dwli ar yr egni sy’ ganddyn nhw.
"Rydym ar ochr cywir y gystadleuaeth ac os fedrwn ddod allan o’r grŵp yna medrwn fynd ychydig yn ddyfnach.”
Dywedodd cyn-asgellwr a chefnwr Cymru Garan Rhys Evans: “Mae’n dal i roi cant y cant mewn pob perfformiad ar y cae.
"Y pethe’n sy’n aros mas i fi yw bod e’n cario’r tîm ar adegau a fe o’dd yn dod â’r agwedd a’r safonau uchel miwn i’w berfformiadau.”