Adroddiadau yn Ffrainc fod cyn-fewnwr Cymru wedi ei wahardd am gymryd hormonau sydd wedi eu gwahardd
Adroddiadau yn Ffrainc fod cyn-fewnwr Cymru wedi ei wahardd am gymryd hormonau sydd wedi eu gwahardd
Mae adroddiadau ym mhapur chwaraeon L’Équipe yn Ffrainc yn honni fod cyn-fewnwr Cymru, Rhys Webb wedi ei wahardd ar ôl methu prawf am gymryd hormonau sydd wedi eu gwahardd.
Yn ôl L’Équipe fe brofodd Webb yn bositif am hormonau sydd wedi eu gwahardd yn dilyn archwiliad annisgwyl gan Asiantaeth Gwrth Gyffuriau Ffrainc (AFLD) yn ystod sesiwn ymarfer ym mis Gorffennaf.
Mae’r papur yn honni byddai’r hormonau heb eu datgan i feddyg clwb Biarritz. Mae’n bosib y bydd Webb yn wynebu gwaharddiad o bedair blynedd.
Dywedodd llywydd clwb Biarritz Jean-Baptiste Aldigé wrth L’Equipe: “Rydym wedi cael gwybodaeth am hyn. Mae ymchwiliad yn cymryd lle.
“Mae’r clwb, sydd ddim yn gysylltiedig â hyn yn aros am y canlyniadau a’r ymchwiliad."
Mae Webb, sy’n 34 oed, wedi ennill 40 o gapiau dros Gymru.
Fe ymunodd â chlwb Biarritz ar ôl iddo adael rhanbarth y Gweilch, a’i fod wedi ymddeol o chwarae rygbi rhyngwladol.
Mae ganddo gytundeb gyda’r clwb nes haf 2025.
Roedd wedi ei ddewis gan Warren Gatland yng ngharfan estynedig Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, cyn iddo benderfynu ymuno â Biarritz.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Undeb Rygbi Cymru am ymateb.