Archwiliad mwyaf ‘ers degawdau’ i ddod o hyd i fwystfil Loch Ness
Mae’r archwiliad “mwyaf ers degawdau” yn cael ei gynnal yn Yr Alban dros y penwythnos i geisio dod o hyd i fwystfil enwog Loch Ness.
Mae gweithwyr Canolfan Loch Ness yn Drumnadrochit yn cyfuno gyda thîm ymchwil gwirfoddol Loch Ness Exploration mewn ymgais i “ganfod y gwirionedd, 90 mlynedd ar ôl i Nessie gael ei weld gyntaf”.
Fe fydd y timoedd yn archwilio wyneb dŵr y llyn ddydd Sadwrn a dydd Sul gan ddefnyddio cyfarpar tanddwr arbenigol sydd heb ei ddefnyddio hyd yma yn y chwilio am yr enwog “Nessie”.
Fe fydd y timoedd hefyd yn defnyddio dronau sy’n cynhyrchu delweddau gwres o’r dŵr gan ddefnyddio camerâu is-goch i geisio dod o hyd i unrhyw anghysonderau o fewn y llyn.
Dyma’r archwiliad mwyaf ers 1972. Mae’r dirgelwch am fodolaeth “Nessie” ai beidio wedi bodoli ers tynnu llun yn 1934 o’r bwystfil honedig.
Cafodd y llun ei brofi'n dwyll flynyddoedd yn ddiweddarach.
Er hynny mae’n dal yn ddiwydiant mawr yn Yr Alban gyda miliynau o bobl wedi heidio i’r ardal o bedwar ban byd dros y blynyddoedd yn gobeithio am gip o "Nessie”.