Disgwyl miloedd o bobl ar gyfer Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd ym Mhowys
Mae disgwyl i filoedd o bobl ymweld â thref Llanwrtyd ym Mhowys dros y penwythnos ar gyfer Pencampwriaethau Snorclo Cors y Byd.
Eleni hefyd fe fydd cystadleuaeth ‘Bog Triathlon’ yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, sef rhedeg traws gwlad am 8 milltir, seiclo am 12 milltir cyn snorclo cors am 60 llath.
Yn ogystal mae cystadlaethau ieuenctid yn rhan o’r penwythnos.
Fe ddechreuodd snorclo cors yn Llanwrtyd yn 1976.
Cafodd y gystadleuaeth ei chreu mewn tafarn ynghyd â her dyn yn erbyn ceffyl gan bobl busnes lleol fel ymgais i ddenu rhagor o ymwelwyr i’r dref wledig.
Mae disgwyl i’r gystadleuaeth roi hwb sylweddol i fusnesau a llety’r ardal.
Fe fydd cystadleuwyr yn snorclo dau hyd o ffos ar gors Waen Rhydd uwchben y dref.
Llun: Croeso Cymru