Gŵyl Fwyd Pont-y-clun: Disgwyl ‘diwrnod prysuraf y flwyddyn’ i fusnesau lleol
Mae masnachwyr lleol ym Mhont-y-clun yn gobeithio am eu diwrnod “prysuraf o’r flwyddyn” wrth i ŵyl fwyd y pentref gael ei gynnal am y tro cyntaf ddydd Sadwrn.
Bydd dros 20 o fasnachwyr yn ymgynnull ar Heol yr Orsaf ym mwrdeistref Rhondda Cynon Taf, gan gynnig bwydydd a diodydd lleol i ymwelwyr trwy gydol y dydd.
Yn dilyn straen cyfnod y pandemig, yn ogystal â’r argyfwng costau byw, mae cynnal gwyliau ar gyfer masnachwyr lleol yn “hollbwysig,” meddai’r trefnwyr â’r masnachwyr ar y cyd.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Simon Cole, sy’n berchennog tafarn The Pipeworks, a fydd yn cymryd rhan yn yr ŵyl eleni, ei fod yn “gyfle arbennig” i hyrwyddo holl gynnyrch “unigryw” y pentref.
“I fusnesau lletygarwch, ac yn dilyn y blynyddoedd diwethaf gyda Covid a’r argyfwng costau byw a phob dim arall, mae busnesau wedi dioddef ‘hit’ enfawr.
“Felly mae gwyliau bach fel hyn, sy’n dod yn fwyfwy arferol, wedi dod yn rhan fawr o’m cynlluniau busnes yn ystod y flwyddyn.
“Mae’n bendant yn bwysig gallu arddangos ein cynnyrch,” meddai.
Oherwydd natur “annibynnol” y pentref, mae gwyliau yn galluogi’r sawl un busnes bach lleol hyrwyddo eu cynnyrch ymhellach, ychwanegodd Simon Cole.
“Mae Pont-y-clun yn bentref annibynnol iawn felly mae yna lawer o fusnesau annibynnol yma.
“Fe lansiodd llawer o’r busnesau yma yn ystod y pandemig felly mae hyn yn ffordd arbennig iddyn nhw gael mwy o fusnes a dangos yr hyn mae’r ardal yn gallu ei gynnig.
“’Dyn ni’n bentref bach, ac mae yna bentrefi sy’n fwy o faint fel Y Bont-faen neu Pen-y-bont ar Ogwr o’m gwmpas, ond ‘dyn ni’n bentref balch iawn.”
‘O bentref i dref’
Yn ôl Cyngor Cymuned Pont-y-clun, sy’n trefnu’r ŵyl eleni, fe fydd yr ŵyl fwyd yn “gymorth mawr” wrth hyrwyddo’r pentref.
Fe fydd yr ŵyl yn hwb “positif” i’r gymuned sydd eisoes yn y proses o drawsnewid o statws pentref i dref, meddai Julius Roszkowski, sef glerc Cyngor Cymuned Pont-y-clun.
“Mae’n gyfle arbennig i fasnachwyr a thrigolion i ddod o hyd i gynnyrch newydd a gallu ymgysylltu.
“Mae gwyliau fel yma yn helpu i greu perthynas rhwng y gymuned, ac yn galluogi pobl i ddod i ‘nabod eu cymdogion.
Bydd 22 o stondinau bwyd a diod yn bresennol yn ystod yr ŵyl ddydd Sadwrn, ac mae’r trefnwyr yn gobeithio cynnal yr ŵyl yn flynyddol o hyn ymlaen.
Llun: Jaggery/Wikimedia Commons.