Seiclo: Geraint Thomas yn ‘edrych ymlaen’ at ras y Vuelta a España
Mae’r Cymro Geraint Thomas yn dweud ei fod yn “edrych ymlaen yn eiddgar” at gystadlu yn ras y Vuelta a España sy’n cychwyn yn Barcelona ddydd Sadwrn.
Mae’r ras dair wythnos yn cynnwys 21 o gymalau dros 3153.8 cilomedr yn Sbaen, Andorra a rhannau o Ffrainc.
Dyma’r 19eg ras fawr i Thomas yn ei yrfa a’r eildro iddo gystadlu yn y Giro d’Italia a’r Vuelta a España yn yr un flwyddyn.
Yn gynharach eleni fe ddaeth Thomas yn ail yn y Giro, dim ond 12 o eiliadau tu ôl i Primož Roglič o Slofenia. Mae Roglič yn y Vuleta i herio Thomas eto ynghyd ag enillydd y Tour de France Jonas Vingegaard o Ddenmarc a Remco Evenepoel o Wlad Belg, enillydd y Vuelta y llynedd.
Fe ddaeth Thomas yn y 69ain safle yn y Vuelta yn 2015.
Mae gan Thomas dalcen caled felly, ond eto, mae e mor bositif ag erioed am ei obeithion.
Dywedodd: “Rwy wedi 'neud y ddau (Giro a’r Vuelta) o’r blaen ac roedd hwnna’n ofnadwy. Rwy wedi paratoi ychydig yn fwy y tro yma ac yn edrych ymlaen. Rwy jyst ishe cael y tair wythnos yma drosodd ac yna cael cwpwl o ddiodydd."
Er ei fod yn 37 oed mae ganddo’r ysfa i ennill o hyd. Ychwanegodd: “Mae gen i weddill fy mywyd i ymlacio ac yfed coctels.”
Nid yw Thomas chwaith wedi diystyru cystadlu yn y Tour de France unwaith eto ar ôl iddo fod ar bob lefel podiwm y ras honno.
“Cawn weld, ond hoffwn fynd yn ôl i’r Tour. Fel arweinydd a thargedi’r fuddugoliaeth – dwi ddim yn gwybod. Bydd rhaid cymryd ychydig o amser i wneud y penderfyniad yna,” meddai.
Mi fydd uchafbwyntiau o bob cymal o'r ras i'w gweld ar S4C a S4C Clic.
Llun: X/Geraint Thomas