Newyddion S4C

'Cyffro' Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd cyn dychwelyd ar ei newydd wedd

27/08/2023
cwmni theatr ieuenctid yr urdd.png

Bydd Cwmni Theatr Eisteddfod yr Urdd yn perfformio eu cynhyrchiad cyntaf ar eu newydd wedd, sef 'Deffro'r Gwanwyn', yr wythnos nesaf.

Mae Deffro'r Gwanwyn yn addasiad Cymraeg gan Dafydd James o Spring Awakening: A New Musical gan Steven Sater a Duncan Sheiks.

Bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio yn Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar 1 a 2 Medi. 

Mae'r cast yn cynnwys 24 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed o bob rhan o Gymru, band byw a thîm sy'n cynorthwyo gyda chynllunio a rheoli llwyfan.

Dywedodd Trefnydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd Branwen Davies: "'Dan ni’n hynod gyffrous bod o’n dychwelyd. Ma’ ‘na hanas a lot o straeon ynglŷn â Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi bod yn mynd ers y 70au a lot o sioeau ac actorion cyffrous wedi tyfu a’u meithrin a’u magu gan y cwmni theatr.  

"Ma’n grêt gallu cynnig rhywbeth newydd efo Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd ar ei newydd wedd."

'Heriol ond hiwmor'

Mae yna nifer o themâu dwys yn cael eu trafod yn y cynhyrchiad yn ôl Branwen.

"Ma' hi’n ddrama eitha' heriol ond yn ddrama sydd yn delio â themâu mae pobl ifanc yn byw a bod efo nhw bob dydd wedyn ma’ ‘di dechra lot o drafodaetha difyr," meddai Branwen.

"Natho ni gael sesiyna deffro’r ddadl ar Faes yr Eisteddfod a ma’ ‘na lot o waith meddwl yn dod allan ohona fo ond be ‘dan ni hefyd isio neud yn siŵr ydi bod ‘na lot o hiwmor yn hwn, lot o obaith ynddo fo hefyd.

"Fersiwn y sioe gerdd ydi hon, nid y ddrama wreiddiol gafodd ei banio yn Yr Almaen flynyddoedd maith yn ôl wedyn ma’ ‘na lot o hwyl i gael efo fo hefyd. Mae o’n gwneud pobl i feddwl ag i adael y theatre ddechrau trafodaeth."

Er bod y cast yn ymdrin â themâu dwys ond perthnasol i bobl ifanc, dywedodd Branwen fod y cast yn agos iawn at ei gilydd ac yna i gefnogi ei gilydd.

"Ma’r cast yn arbennig, ma’ nhw, dwi’n gwirioni efo nhw bob dydd, ma’ nhw’n aeddfed, mor frwdfrydig, mor agored, ma’ nhw’n gofalu am ei gilydd mor dda," meddai.

"Ma’r ystod oed o 16 i 25 wedyn ma’r criw ieuengaf yn dysgu gymaint gan y criw hyn ond hefyd ma’r criw hyn yn dysgu lot gan y criw ifanc. Does na ddim ‘ni a nhw’, ma’ nhw’n unit, yn deulu a ma hynny yn rili sbeshial wedyn ‘dan ni ‘di paratoi a siarad a ma’ ‘na deimlad o berthyn."

 

Image
Jona Milone ac Ela Vaughan yn ymarfer ar gyfer Deffro'r Gwanwyn
Jona Milone ac Ela Vaughan yn ymarfer ar gyfer Deffro'r Gwanwyn

Mae Branwen yn teimlo ei bod yn bwysig fod pobl ifanc yn cael y cyfle i "bortreadu eu bywydau nhw" ar lwyfan, a bod yr Urdd yn cynnig y llwyfan yma. 

"Mae'n bwysig bod pobl ifanc yn chwarae pobl ifanc a bod nhw’n gallu uniaethu efo’r gwaith – ma’ hwnna yn hynod o bwysig bod nhw’n gallu rhoi rhan ohona nhw’i hun yn y gwaith," meddai.

"Nid jest Steddfod ydi’r Urdd, nid jest perfformio cerdd dant a llefaru ydi yr Urdd. Ma’ ‘na ffyrdd eraill o berfformio a dwi’n meddwl bod o’n bwysig gallu archwilio themâu mewn ffordd greadigol a theatrig. Dwi’n meddwl bod o’n bwysig bod yr Urdd yn arbrofi ac yn archwilio petha ag yn mentro ag yn herio ond mewn ffordd ddiogel."

Ac er mai'r prif ffocws ar hyn o bryd ydy'r perfformiadau nos Wener a nos Sadwrn nesaf, mae gan y cwmni gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol hefyd meddai Branwen. 

"O’dd o’n gret gallu rhoi platform i Deffro’r Gwanwyn, dwi’n meddwl bod o mor berthnasol i bobl ifanc ond oedd o hefyd yn gyfle i lwyfannu chwip o addasiad Dafydd James," meddai. 

"Ma’ ‘na gymaint o artistiaid talentog ‘dan ni isio gweithio hefo nhw ond hefyd ma mor bwysig mai pobl ifanc sy’n bwydo’r gwaith yna so fyddan ni’n gweithio hefo aelodau’r Cwmni ‘be da chi isio, be’ da chi isio greu’ a mynd o hynny achos nhw sy’n bwydo’r gwaith ac yn ein dysgu ni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.