Llywydd Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen yn gwrthod ymddiswyddo wedi cusan ffeinal Cwpan y Byd
Mae Llywydd Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen yn gwrthod ymddiswyddo wedi iddo gusanu chwaraewr ar ôl ffeinal Cwpan y Byd merched.
Mae FIFA, y corff llywodraethu pêl-droed byd-eang, wedi dwyn achos disgyblu yn erbyn Luis Rubiales wedi iddo gusanu'r ymosodwr Jenni Hermoso ar ei gwefusau yn dilyn y fuddugoliaeth dros Loegr.
Dywedodd Jenni Hermoso ei bod hi heb gydsynio i gael ei chusanu gan y llywydd.
Mae 81 o chwaraewyr hefyd wedi cadarnhau na fyddan nhw'n chwarae i dîm cenedlaethol Sbaen nes iddo gael ei dynnu o'i swydd.
Yn ôl adroddiadau yn y wasg, gan gynnwys papur newydd El Pais, roedd disgwyl iddo gyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo ddydd Gwener ac mae wedi sôn am hyn wrth ei gyd-weithwyr.
"Bydd Rubiales yn ymddiswyddo yfory," meddai arbenigwr pêl-droed Sbaen, Guillem Balague ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae wedi colli cefnogaeth y chwaraewyr, y llywodraeth, FIFA a hyd yn oed cwmnïau lleol sydd yn dibynnu ar y ffederasiwn."
Roedd disgwyl iddo ymddiswyddo mewn cynulliad cyffredinol a gafodd ei galw gan Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen, ond yn hytrach fe ddywedodd Rubiales: "Nid wyf yn haeddu'r helfa hon.
"Roedd yn gusan digymell. Dyna sy'n allweddol.
"Mae sws gysyniadol yn ddigon i fy nghael allan o'r swydd?"
Torri rheolau
Mae FIFA yn ymchwilio i weld a yw Luis Rubiales wedi torri rheol 13 y cod disgyblu, sydd yn ymwneud ag ymddygiad sarhaus a diffyg chwarae teg.
Yn ôl y cod disgyblu, mae swyddogion ymhlith y rhai sy'n gorfod "cydymffurfio ag egwyddorion chwarae teg, teyrngarwch ac uniondeb".
Mae'r cod yn dweud bod modd disgyblu unrhyw un sy'n "torri rheolau sylfaenol ymddygiad gweddus", sy'n "sarhau person mewn unrhyw ffordd, yn enwedig trwy ddefnyddio ystumiau, arwyddion neu iaith dramgwyddus" neu "ymddwyn mewn ffordd sy'n dwyn anfri ar bêl-droed a/neu FIFA".
Ymddiheurodd Rubiales am y gusan ddydd Llun, ond dywedodd Prif Weinidog Sbaen Pedro Sanchez nad oedd hynny “yn ddigon” ac ymunodd y dirprwy brif weinidog Yolanda Diaz â’r rhai oedd yn galw arno i ymddiswyddo.
Dywedodd Futpro, yr undeb sy’n cynrychioli Hermoso, bod angen cosbi Luis Rubiales.
Llun: BBC Sport