Gofal canser Cymru ‘yn gadael cleifion i lawr’
Gofal canser Cymru ‘yn gadael cleifion i lawr’
Mae elusen canser wedi dweud bod cleifion yng Nghymru yn cael eu “gadael i lawr” wrth i amseroedd aros ar gyfer triniaeth ysbyty yng Nghymru gyrraedd yr ail uchaf ar record.
Roedd data mis Mehefin a gyhoeddwyd ddydd Iau yn awgrymu mai dim ond 53.4% o bobl oedd yn dechrau eu triniaeth canser ar amser.
Roedd hynny’n golygu bod 870 o bobol wedi wynebu oedi cyn ddechrau eu triniaeth.
Ond dywedodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, bod y rhestrau aros yn gwella yn ôl rhai cyfrifon.
“Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd 132 yn fwy o bobl eu triniaeth ddiffiniol gyntaf, gyda 23 yn fwy o fewn y targed, o'i gymharu â'r un amser blwyddyn ddiwethaf,” meddai.
“Hefyd gwelwyd cynnydd o 14% yn y nifer a gafodd wybod nad oes ganddynt ganser (14,575) o'i gymharu â Mehefin 2022.”
Ond dywedodd Macmillan bod amseroedd aros wedi gwaethygu ar yr un adeg y llynedd.
“Ym mis Mehefin dim ond 53.4% (1,003 allan o 1,880) o lwybrau gofal cleifion ddechreuodd eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod o’r amheuaeth gyntaf fod ganddyn nhw ganser,” medden nhw.
“Roedd hynny 0.7% yn is na’r mis blaenorol, 2.7% yn llai na mis Mehefin 2022 a’r ail leiaf ers cadw cofnodion.”
Dywedodd Glenn Page, Rheolwr Polisi Macmillan Cymru bod y ffigurau yn “dangos system sy’n gadael pobl sy’n cael diagnosis o ganser i lawr”.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i sicrhau bod pobl yn gallu cael y driniaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt,” meddai.
“Mae angen triniaeth amserol i sicrhau bod pobl yn cael y canlyniadau gorau posibl.”
‘Calonogol’
Yng Nghymru roedd 754,271 o achosion o gleifion ar restrau aros yn ôl y ffigyrau diweddaraf, y pedwerydd mis yn olynol i'r ffigwr godi.
Roedd hynny 400 yn unig yn is na’r nifer mwyaf erioed a gofnodwyd ym mis Medi'r llynedd.
Ond gallai cleifion unigol fod yn disgwyl sawl triniaeth ac felly yn cael eu cyfri fwy nag unwaith.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, bod cwymp yn yr amseroedd aros hiraf – o dros flwyddyn – yn “galonogol”.
“Yr amser aros cyfartalog am driniaeth yng Nghymru yw 19.1 wythnos – sydd 10 wythnos yn llai na brig mis Hydref 2020 a dwy wythnos a hanner yn fyrrach na blwyddyn yn ôl,” meddai.
“Mae hyn er gwaethaf y galw parhaus ar staff y GIG sy'n gweithio'n galed. Atgyfeiriadau ar gyfer canser ac arbenigeddau eraill oedd yr uchaf i gael eu cofnodi erioed ym mis Mehefin. Cynyddodd atgyfeiriadau gyfan gwbl gan 20% ers yr un mis y llynedd.
“Ym mis Mehefin gwelwyd y gyfran uchaf o bobl sy’n aros llai na 26 wythnos am driniaeth (59.3%), ers tair blynedd, ac mae arosiadau dros flwyddyn am apwyntiad cleifion allanol a dwy flynedd am driniaeth yn parhau i ostwng.
“Mae arosiadau dros ddwy flynedd bellach wedi gostwng 60% ers i’n rhaglen adfer ar ôl Covid gael ei lansio.
“Er nad yw'r galw am wasanaethau yn arafu ac er bod y rhestr aros gyffredinol wedi codi eto, mae angen inni sicrhau ein bod yn rheoli ein hadnoddau yn effeithiol. Y llynedd cafodd dros 6,000 o driniaethau eu canslo ar y funud olaf.
“Mae canslo apwyntiadau ar y funud olaf yn golygu gwastraffu adnoddau – mae'n golled o ran amser ymgynghorwyr a llawfeddygon pan allai'r gofod hwnnw fod wedi cael ei gynnig i rywun arall.
“Dyna pam rwyf wedi lansio ein polisi aros yn rhagweithiol, sef y polisi 3A i gefnogi pobl sy'n aros am driniaeth i atal rhai o'r apwyntiadau hynny rhag cael eu canslo a sicrhau bod pobl yn cael y canlyniadau gorau.
“Mae adrannau brys ac ambiwlansys yn parhau i weld lefelau parhaus o alw uchel. Er hynny, mae perfformiad yn erbyn targed pedair awr yr adran argyfwng ac amseroedd ymateb galwadau coch ambiwlansys yn dal eu tir yn dda, yn unol â gwelliannau a welwyd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.
“Ym mis Gorffennaf ymatebodd y gwasanaeth ambiwlans i fwy o ddigwyddiadau o fewn 10 munud o'i gymharu â'r un mis y llynedd.
“Ym mis Gorffennaf cafodd yr ail gyfran uchaf o alwadau eu hateb gan linell gymorth 111 am dros flwyddyn. Mae'n galonogol bod fwy o bobl yn defnyddio'r llinell gymorth hon i sicrhau'r gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion a lleihau'r pwysau ar y system ehangach.”
‘Gwastraffu’
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y cwymp mewn amseroedd aros yn “hynod o araf”.
“Ro’n i’n arbennig o siomedig i weld, er gwaethaf y gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr mewn adrannau achosion brys, fod amseroedd aros pedair a 12 awr ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gwaethygu,” meddai'r Aelod o Senedd Cymru, Russell George.
“Mae angen i ni flaenoriaethu diogelu’r gyllideb iechyd, yn lle gwastraffu arian trethdalwyr ar gyflwyno parthau 20mya ac anfon mwy o wleidyddion i Fae Caerdydd fel y mae Llafur eisiau ei wneud.”