
Ail-lansio Côr Tŷ Tawe i gadw gwreiddiau Cymraeg yn ninas Abertawe
Ail-lansio Côr Tŷ Tawe i gadw gwreiddiau Cymraeg yn ninas Abertawe
Mae Côr Tŷ Tawe yn cael ei ail-lansio ym mis Medi yn dilyn cyfnod anodd y pandemig.
Fe fydd y côr ar ei newydd wedd yn cael ei arwain gan Bethan Wynne Phillips.
Tŷ Tawe yw canolfan Gymraeg Abertawe.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd yr arweinydd newydd: “Wastod wedi bod yn ymwybodol o gôr Tŷ Tawe, ac o ni arfer mynychu Tŷ Tawe pan o ni'n tyfu i fyny
“Pan ddaeth y cyfle doedd dim modd i mi basio fe mlaen."
Yn wreiddiol o Abertawe, dywedodd Bethan bod gwneud rhwybeth yn ei milltir sgwar yn bwysig iawn iddi.
“Dwi’n caru’r ardal ac mae unrhyw beth fi’n gallu neud i hybu’r iaith yn yr ardal hefyd yn hynod hynod bwysig i mi."
Bwriad yr ail-lansiad yw i ail-afael yng ngwreiddiau’r côr ond hefyd creu rhai newydd, medd Bethan.
“Mi oedd y tîm arwain gwreiddiol, sydd wedi bod yma ers llawer o flynyddoedd, mi oedden nhw’n ymddeol cyn y pandemig.
“Ond yn amlwg fel nifer o dimau cerddorol a corau ledled y wlad, yn ystod y pandemig mi oedd yn hynod anodd i’r côr barhau.
“Mae pob ymdrech nawr i gael hen aelodau nôl, denu aelodau newydd ac i ddangos i bobl Abertawe bod y côr yn dal i fod yma."
Iaith
Cafodd y côr ei sefydlu ym 1990. Mae wedi bod o dan arweiniad Helen Gibbon a chyfeilio John Evans am 30 mlynedd. Mae'n gôr pedwar llais i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr lleol.
Un aelod ffyddlon yw Catrin Alun.

Dywedodd Catrin: “Fi yw aelod o’r côr sy di bod yn y côr yr hiraf.
“Nes i ymuno yn yr ail flwyddyn - y flwyddyn gynta o ni rhy hen, cor ieuenctid oedd e i ddechrau.
Un o’r pethau pwysicaf i Catrin a gweddill y côr, yw canu yng Nghymraeg.
Dywedodd Catrin: “Dim ond yn y Gymraeg da ni’n canu – da ni ddim yn canu yn Saesneg o gwbl. Wedi dweud hynny, da ni weithiau’n canu yn Lladin.
“Ma na gymaint o Gymry yn byw yn Abertawe, yn gallu bod yn aelod o’r côr sydd ddim yn gwybod falle ein bod ni’n bodoli.
Gyda chyn lleied o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddod at ei gilydd yn yr ardal, mae Catrin yn teimlo fod y côr yn hollbwysig.
“Ma ishe dod a’r Cymry at ei gilydd – ma ishe creu’r gymdeithas yma mewn dinas lle mae’r Saesneg a ieithoedd eraill yn curo’r Gymraeg mewn ffordd.
“Ma ishe ni ddangos bod ein iaith ni, ydi’r iaith wrieddiol.
“Ma hi mor bwysig i ni, ma hi mor werthfawr a da ni wir ddim eisiau cholli hi," meddai.
Cynlluniau
Yn ôl Bethan, mae'r aelodau yn cynnwys ambell i ddysgwr.
Dywedodd: “Ma llawer ohonyn nhw yn dweud ma’r côr yn ganolbwynt i godi hyder nhw, i fyw trwy’r iaith ac i gymdeithasu trwy’r iaith hefyd.
“Ma’r côr yn agored i siaradwyr yr iaith a siaradwyr newydd yr iaith hefyd.
Dros y blynyddoedd mae’r côr wedi cynnal cyngherddau ledled de Cymru yn canu amrywiaeth o alawon gwerin, emynau a chaneuon modern a darnau clasurol.
Fe fydd y côr yn cael ei ail-lansio yn ffurfiol ar 13 Medi ac mae gan ei harweinydd newydd ddigon o gynlluniau ar y gweill – o gystadlu, ehangu ei repertoire a pherfformio yn lleol.
“Mae’n bwysig i barchu gwrieddiau’r côr.
“Dwi’n gwbod yn bersonol, ac mae’r côr hefyd yn eiddgar i ychwanegu at repertoire eang y côr sydd wedi bod yn mynd ers dros 30 mlynedd.
“Mae’n bwysig iawn i gal y traddodiad i barhau, a’r darnau mae’r cor yn mwynhau perfformio, efallai moyn atgyfodi hefyd ma nhw heb berffomrio ers amser ond yn bendant ma cynlluniau ar y gweill.
“Fe ddaw cynlluniau mwy pendant: cystadlu mewn esidteddfodau lleol, teithiau efallai.
“Fe fydd yna drafodaethau llawn ym mis Medi ac yn bendant cynlluniau i berfformio o gwmpas cyrion Abertawe.”