Gradd B mewn TGAU Cymraeg i fachgen o Wcráin
Gradd B mewn TGAU Cymraeg i fachgen o Wcráin
Mae bachgen o Wcráin a wnaeth ffoi o'r wlad ym mis Mawrth y llynedd wedi derbyn gradd B mewn TGAU Cymraeg.
Mae Bohdan Syvak yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Porthcawl, ac roedd ymysg sawl disgybl arall a oedd yn disgwyl am eu canlyniadau TGAU fore Iau.
Arhosodd ei deulu yn yr Almaen am chwe wythnos, cyn symud i Gymru a chael croeso cynnes gan deulu ym Mhorthcawl.
Fe wnaeth Bohdan sefyll ei arholiad llafar TGAU Cymraeg yn gyntaf, ac yna tri arholiad arall i asesu ei sgiliau gwrando, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Tra'n aros am ei ganlyniadau, dywedodd Bohdan ddydd Mercher: "Dwi ddim yn nerfus am Cymraeg TGAU, achos dysgais i Cymraeg llafar gyda Miss Lloyd.
"Bydda i yn mynd i'r coleg yn Pencoed i astudio pêl-droed a chwaraeon, a hoffwn i chwarae pêl-droed yn broffesiynol, a hoffwn i siarad Cymraeg ar lefel dda yn y dyfodol."