TGAU: Canlyniadau yng Nghymru 'hanner ffordd rhwng 2019 a 2022'
TGAU: Canlyniadau yng Nghymru 'hanner ffordd rhwng 2019 a 2022'
Mae canlyniadau TGAU yng Nghymru 'hanner ffordd' rhwng y rhai a gafodd eu dyfarnu yn 2019 a 2022.
Derbyniodd miloedd o ddisgyblion ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu marciau a'u graddau TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a chymwysterau galwedigaethol fore Iau.
Dyma oedd yr ail flwyddyn i ddysgwyr sefyll arholiadau ac asesiadau ffurfiol ers 2019 wedi iddyn nhw gael eu canslo yn ystod y pandemig.
Cafodd gwybodaeth ymlaen llaw a dull cefnogol o raddio eu cyflwyno eleni hefyd er mwyn "cefnogi dysgwyr yn ystod y cyfnod o bontio’n ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig" yn ôl Cymwysterau Cymru.
Fe gafodd 300,409 o raddau TGAU eu dyfarnu'r haf hwn, sydd yn llai na'r llynedd ond yn fwy ng yn 2019.
Roedd 21.7% o'r graddau TGAU yng Nghymru yn radd A/7 neu'n uwch, tra bod 64.9% yn C/4 neu'n uwch ac roedd 96/9% yn gradd G/1 neu'n uwch.
Roedd 9% o'r graddau TGAU i bobl ifanc 16 oed yn raddau A*, 22% yn A* neu A a 65.6% y raddau A*-C.
Llongyfarchiadau mawr i’n holl ddisgyblion ar eu canlyniadau TGAU heddiw.
— maesygwendraeth (@maesygwendraeth) August 24, 2023
Adlewyrchir ymroddiad, dyfalbarhad a gwaith caled y disgyblion a’r staff yn y canlyniadau arbennig.
Braf hefyd oedd croesawu gohebydd o @SkyNews i’r ysgol bore ‘ma.#fiywmaes pic.twitter.com/xKuElNasFC
'Peidio â phoeni'
Dywedodd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru Phillip Baker: "Diolch i’r holl ysgolion a cholegau am eu gwaith caled yn cefnogi dysgwyr wrth i ni gymryd y cam nesaf ar ein taith yn ôl i drefniadau asesu cyn y pandemig.
"Mae'r daith yn ôl yn bwysig wrth ystyried tegwch hirdymor i ddysgwyr. Mae arholiadau ac asesiadau ffurfiol yn caniatáu i ddysgwyr ddangos eu gwybodaeth a chyflawni graddau yn seiliedig yn gyfan gwbl ar y gwaith maen nhw wedi'i gynhyrchu, gan ganiatáu i ni fod â chymaroldeb mewn dulliau o flwyddyn i flwyddyn.
"Efallai y bydd rhai dysgwyr nad ydyn nhw’n cyflawni’r graddau roedden nhw wedi gobeithio amdanyn nhw. Fy nghyngor i yw peidio â phoeni os nad wyt ti wedi cael y graddau sydd eu hangen arnat ti ar gyfer y llwybr cynnydd rwyt ti wedi’i ddewis. Mae llawer o opsiynau ar gael a llwybrau gwahanol y mae modd i ti eu hystyried, a bydd cefnogaeth ar gael os byddi di angen arweiniad."
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Llongyfarchiadau i bawb sy’n derbyn canlyniadau heddiw.
"Chi wedi gweithio mor galed, a mae pawb yn falch iawn ohonoch chi. Pob lwc i chi gyd, beth bynnag yw eich cam nesaf."
Fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, hefyd longyfarch disgyblion ar hyd a lled Cymru a oedd yn derbyn eu canlyniadau: "Rwy'n croesawu'r canlyniadau hyn wrth i'n taith yn ôl at drefniadau cyn y pandemig barhau.
"Mae'n ysbrydoledig gweld beth mae ein dysgwyr wedi'i gyflawni. Bu'n rhaid i'r dysgwyr yma wynebu heriau anferth a wnaeth effeithio ar eu cyfleoedd dysgu dros y blynyddoedd diwethaf wrth iddynt symud drwy eu haddysg uwchradd ac ymlaen i'w TGAU."