Pennaeth Wagner ymysg 10 'wedi eu lladd' mewn damwain awyren yn Rwsia
Pennaeth Wagner ymysg 10 'wedi eu lladd' mewn damwain awyren yn Rwsia
Roedd pennaeth y grŵp parafilwrol Wagner, Yevgeny Prigozhin, ar restr teithwyr yr awyren a blymiodd i'r ddaear yng ngorllewin Rwsia yn ôl awdurdod hedfan sifil y wlad.
Mae'r gwasanaethau brys yn dweud eu bod bellach wedi darganfod cyrff y 10 person fu farw yn y ddamwain ger pentref Kuzhenkino ddydd Mercher.
Mae'r awdurdod hedfan sifil yn dweud fod ei gydweithiwr agos a'i ddirprwy, Dmitry Utkin, hefyd wedi ei ladd. Roedd yr awyren yn hedfan o gyfeiriad Moscow tuag at St Petersburg.
Dywedodd awdurdod hedfan sifil Rwsia mewn datganiad nos Fercher: "Mae ymchwiliad wedi dechrau i’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd yn rhanbarth Tver. Yn ôl y rhestr teithwyr, yn eu plith mae enw â chyfenw Yevgeny Prigozhin."
Fe wnaeth Yevgeny Prigozhin arwain gwrthryfel byrhoedlog yn erbyn arweinwyr milwrol Rwsia ym mis Mehefin, ac fe gafodd ei ddisgrifio ar y pryd gan Vladimir Putin fel 'bradychwr'.
Daeth y gwrthryfel i ben pan y gwnaeth Arlywydd Belarws gamu mewn i sicrhau cytundeb, oedd yn cynnwys Mr Prigozhin yn cytuno i symud i'r wlad.
'Monitro yn agos'
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn gwylio'n agos yn dilyn yr adroddiadau fod Mr Prigozhin wedi ei ladd.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym yn monitro'r sefyllfa yn agos."
Yn America, dywedodd yr Arlywydd Joe Biden: "Dwi ddim yn gwybod beth ddigwyddodd am ffaith, ond dydw i ddim wedi fy synnu."
Mae ffynhonnell ddiogelwch o'r DU sydd wedi ei dyfynnu ym mhapur newydd The Daily Telegraph wedi awgrymu fod yr awyren bron yn sicr wedi ei saethu lawr gan asiantaeth cudd-wybodaeth ddomestig Rwsia, yr FSB, ar sail gorchmynion gan yr Arlywydd Putin.
Wrth i newyddion o'r gwrthdrawiad ddod i'r amlwg, roedd yr Arlywydd Putin yn siarad mewn digwyddiad i goffáu Brwydr Kursk, gan roi teyrnged i arwyr rhyfel Rwsia yn Wcráin.