Yma o Hyd: Dafydd Iwan yn 80 oed
Yma o Hyd: Dafydd Iwan yn 80 oed
Yn ganwr, ymgyrchydd, dyn busnes, gwleidydd, cenedlaetholwr ac yn eicon cenedlaethol i lawer, mae Dafydd Iwan yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ddydd Iau.
Ac wrth sgwrsio gyda Newyddion S4C dywedodd bod un llinyn arian yn tynnu ei fywyd ynghyd - Cymreictod a’r iaith Gymraeg.
Dywedodd Dafydd Iwan: “Be sy’n bwysig i mi ydi bod y cyfan yn cysylltu â’i gilydd, hynny yw nid gwahanol bethau ydyn nhw ond gwahanol agweddau o’r un peth sef be ydi ystyr bod yn Gymro.
“A dwi wedi trio yn fy ngwaith fel ymgyrchydd, canwr a dyn busnes a gwirfoddolwr i drio rhoi ystyr i Gymreictod ac i hyrwyddo achos Cymru a’r Gymraeg.”
Ac er bod Dafydd Iwan yn credu bod sefyllfa’r iaith Gymraeg yn fwy iach erbyn hyn, mae angen parhau â'r frwydr a hynny o bosib am byth.
“Allwn ni fod yn weddol hapus bod Cymru wedi dechrau cymryd ei hun o ddifri a datblygu mwy o hunan hyder ac wedi cymryd addysg Gymraeg o ddifri," meddai.
“Ond nawn i ni byth gyrraedd pwynt lle allwn ni ddweud bod yr iaith Gymraeg yn saff.
"Ymladd y bydd hi am byth - a dyw hynny ddim yn beth drwg i gyd.”
‘Canu Yma o Hyd yn uchafbwynt’
Fe wnaeth ei gân ymgyrchu Yma o Hyd gyrraedd brig siartiau iTunes llynedd, wedi iddo ddod yn anthem i dîm pêl-droed Cymru a’r Wal Goch.
Ac yn ôl Dafydd Iwan, roedd cael canu’r gân gyda thîm a chefnogwyr Cymru yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn un o’i uchafbwyntiau mwyaf.
“Does gen i ddim hoff atgof erioed, achos dwi wedi cael bywyd amrywiol a difyr a digon pleserus. Ond mae o wedi cyrraedd rhyw uchafbwynt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ‘ma, gydag Yma o Hyd a phêl-droed,” meddai.
“Ac mae’n rhaid i fi ddweud oedd canu yn y stadiwm yng Nghaerdydd ym mis Mawrth llynedd i ddechrau yn brofiad arbennig iawn iawn, ac yn un o’r uchafbwyntiau. Oedd o yn fraint."
Ymgyrchu a phrotestio
Mae Dafydd Iwan yn adnabyddus am ei ymdrech i achub yr iaith Gymraeg drwy brotestio a chanu caneuon arwyddocaol ond mae hefyd wedi bod i’r carchar dros yr hyn mae'n ei gredu.
Fe dreuliodd gyfnod yn y carchar yn ystod ymgyrch o ddifrodi arwyddion ffordd uniaith Saesneg yn yr 1970.
“Wel dydi mynd i’r carchar ddim yn beth bychan wrth gwrs,” meddai.
“Roedd y 60au ar 70au yn cynhyrchu'r math o benderfynoldeb a phobl oedd yn teimlo yn gryf dros achos ac yn fodlon cario peth i’r pen, hyd yn oed os oedd o yn golygu carchar.
“Mi fydd yna angen i bobl fynd i’r carchar eto dros ryw achos, ond mae’n syndod bod y 60au, 70au, 80au wedi gweld cannoedd o Gymry yn y carchar dros yr iaith Gymraeg sy’n dangos pa mor gryf oedden ni’n teimlo.”
Dywedodd Dafydd Iwan ei fod yn hyderus “fod yna ddigon o bobl ifanc i barhau” i ymgyrchu dros Gymru.
“Hynny yw, mae pob cenhedlaeth yn gwneud yn wahanol ond dwi yn meddwl bod yna falchder yng Nghymru ac yn y Gymraeg, ac mi fydd yna gantorion yn canu am eu teimladau am Gymru a’r byd," meddai.
‘Ddim yn difaru cyfarfod y Brenin Charles’
Dros y blynyddoedd mae Dafydd Iwan wedi bod yn diddanu Cymru gyda chaneuon cenedlaetholgar gan gynnwys un am y Brenin Charles, wedi iddo gael ei arwisgo fel Tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn 1969.
Ac yn 2019 fe wnaeth Dafydd Iwan gymryd y cyfle i gyfarfod y Brenin, “dyn i ddyn” ar gyfer rhaglen ar S4C.
“Roeddwn i yn gwrthwynebu'r arwisgo a theitl Tywysog Cymru a dwi dal i wneud a dwi ddim yn gallu derbyn y Teulu Brenhinol,” meddai.
“Ond dwi ddim yn eu gwrthwynebu nhw am fy mod yn casáu'r persona. Felly ar ôl hanner can mlynedd o osgoi cyfarfod a’r dyn ges i gynnig ei gyfarfod o, dyn i ddyn. Dwi ddim yn difaru, mae o yn ddyn diddorol sydd yn gaeth, allith o ddim dod allan.
“Dwi ddim yn colli cwsg dros y Teulu Brenhinol ddim mwy. Un peth fyswn ni yn dweud wrtho fo, taswn ni yn cyfarfod o eto a dydi hyn ddim yn debygol ydi; y dylai y Goron roi'r eiddo sydd ganddyn nhw yng Nghymru yn ôl i Senedd Cymru.
"Ac mae hynny nid yn unig yn cynnwys yr arfordiroedd i gyd ond yn cynnwys y cestyll i gyd, mae'r rheini yn dal yn eiddo i’r Goron.”
Beth nesaf i Dafydd Iwan?
Yn ôl Dafydd Iwan mae'n teimlo yn lwcus ac yn ffodus bod pobl ar draws Cymru, o bob cenhedlaeth yn parhau i fwynhau ei ganeuon.
“Mae gweld pobl ifanc, plant yn canu Yma o Hyd gyda’u holl galon yn codi fy nghalon innau dwi’n falch iawn ac yn ffodus iawn," meddai.
“Syndod ydi bo fi wedi cyrraedd 80, a gobeithio gai fynd am sbel fach eto.
"Y cwestiwn mawr ydi pryd allai rhoi gorau i ganu?
“Pan roddodd Gareth Bale'r gorau iddi a dweud 'medrai ddim neud o ddim mwy', o’n i yn dweud wel dyna’r gwahaniaeth rhwng pêl-droediwr a chanwr, mae pêl-droedwyr yn gwybod pryd i roi’r gorau iddi, dwi dal i bendroni am y peth!”