Disgwyl cwymp yng ngraddau TGAU Cymru
Mae disgwyl cwymp yng ngraddau TGAU Cymru ar gyfartaledd wrth iddyn nhw ddychwelyd i drefn debyg i'r hyn a oedd cyn y pandemig.
Bydd disgyblion ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn dechrau derbyn eu marciau am 8am ddydd Iau ond mae disgwyl iddyn nhw fod ychydig is na’r llynedd.
Daw ar ôl i Covid-19 arwain at gynnydd yn y graddau TGAU gorau yn 2020 a 2021, gyda chanlyniadau yn seiliedig ar asesiadau athrawon yn lle arholiadau.
Yng Nghymru, disgwylir i’r canlyniadau fod “tua hanner ffordd” rhwng y rhai a ddyfarnwyd yn 2022, y flwyddyn gyntaf wedi ail-gyflwyno arholiadau, a chyn y pandemig yn 2019.
Mae rheoleiddwyr arholiadau wedi dweud nad ydyn nhw’n bwriadu dychwelyd at y drefn cyn y pandemig yn gyfan gwbl nes y flwyddyn nesaf.
Yn Lloegr bydd y canlyniadau yn dychwelyd i’r drefn cyn y pandemig, gan olygu fod disgwyl i’r marciau fod yn debycach i 2019.
Llongyfarchiadau i bawb sy’n derbyn canlyniadau heddiw.
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) August 24, 2023
Chi wedi gweithio mor galed, a mae pawb yn falch iawn ohonoch chi.
Pob lwc i chi gyd, beth bynnag yw eich cam nesaf.
Mewn neges ddydd Mercher dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Jeremy Miles: “Pob lwc i bawb sy'n disgwyl canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol yfory.
“Rydych chi i gyd wedi gweithio mor galed, gobeithio eich bod chi'n edrych ymlaen at gyfleoedd cyffrous o'ch blaen.”
Mae rhagor o newidiadau yn Lloegr gyda’r marciau A* i U traddodiadol wedi eu newid i rifau 9 i 1.
Ond yng Nghymru bydd y llythrennau yn parhau.