Newyddion S4C

Un ymhob pedwar o ddyfarnwyr pêl-droed yng Nghymru 'wedi dioddef trais corfforol'

24/08/2023
Dyfarnwyr Cymru

Mae un ymhob pedwar o ddyfarnwyr pêl-droed Cymru wedi dioddef trais corfforol, yn ôl arolwg newydd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Roedd casgliadau'r arolwg yn awgrymu bod sawl dyfarnwr wedi penderfynu gadael eu swydd yn dilyn trais corfforol a chamdriniaeth ar lafar wrth ddyfarnu.

Mae penderfyniad sawl dyfarnwr i adael eu swyddi wedi cael effaith “hynod o andwyol” ar bêl-droed yng Nghymru ar y cyfan, gan fod prinder dyfarnwyr mewn gemau llawr gwlad. 

Roedd yr arolwg a oedd yn cynnwys ymatebion 282 o unigolion hefyd yn awgrymu fod 88% o ddyfarnwyr wedi dioddef camdriniaeth ar lafar yn ystod eu gyrfa. 

Roedd 50% o'r dyfarnwyr yn credu fod yr ymddygiad tuag atynt yn parhau i waethygu. 

Wedi iddo gael ei fygwth yn ystod ac ar ôl sawl un gêm, dywedodd yr hyfforddwr a chyn-ddyfarnwr Sean Regan: “Cefais fy rhoi mewn sefyllfa a wnaeth wneud i mi benderfynu nad o’n i am barhau gyda dyfarnu.

"‘Nath e ‘neud i fi cwestiynu, ‘a yw hyn werth y drafferth?’

“Dwi'n meddwl bod angen newid y diwylliant. Ni fydd pêl-droed, gemau llawr gwlad, neu unrhyw chwaraeon arall yn cael eu cynnal heb ddyfarnwyr.

“Mae angen i bobl ymddwyn ar ochr y cae yn yr un modd ag y bydden nhw'n ymddwyn wrth gerdded i lawr y stryd, neu yn ein swyddfa. 

“Mae pob aelod o’r teulu pêl-droed yn cynnig esiampl i'r chwaraewyr, ac mae angen i ni gadw hynny mewn cof drwy’r amser." 

‘Mesurau’

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru am gyflwyno mesurau i leihau achosion o gam-drin, a hynny mewn ymdrech i gynyddu nifer y dyfarnwyr yng Nghymru.

Fel rhan o’r mesurau yma, bydd bandiau melyn yn cael eu rhoi i ddyfarnwyr dan 18 i’w gwisgo ar eu breichiau mewn ymdrech i leihau camdriniaeth. 

Mae dyfarnwyr hefyd wedi cael gwybod sut i adrodd achosion o gam-drin yn swyddogol. 

Dywedodd Jack Rea, Swyddog Gweithredol Recriwtio a Chadw Swyddogion Gêm Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae canlyniadau’r arolwg yma yn peri pryder ac yn dangos pwysigrwydd y gymdeithas a’r teulu pêl-droed ehangach wrth fynd i’r afael â dyfarnwyr yn cael eu cam-drin. 

“Mae parchu'r rheiny ar draws y gêm i gyd yn allweddol, a’r unig ffordd y gallwn ni sicrhau hynny yw trwy gydweithio. 

“Er gwaetha’r cam-drin mae nifer o ddyfarnwyr wedi dioddef, rydym yn parhau i weld dyfarnwyr sydd wedi parhau yn y gêm oherwydd eu cariad tuag at bêl-droed. 

“Yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru a ledled cymdeithasau’r wlad, rydym yn recriwtio’r nifer uchaf erioed o ddyfarnwyr, gyda menywod a merched yn dangos diddordeb digynsail. 

“Mae cadw’r dyfarnwyr yma yn y gêm yn hollbwysig ac er mwyn cyflawni hyn, mae rhaid i ni sicrhau ymddygiad teg a pharchus er mwyn cryfhau’r gêm yn ei chyfanrwydd.”

Llun gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.