Pennaeth Wagner 'ar restr teithwyr awyren chwalodd ger Moscow'
Pennaeth Wagner 'ar restr teithwyr awyren chwalodd ger Moscow'
Roedd pennaeth grŵp milwrol Wagner ar restr teithwyr awyren a chwalodd ger Moscow yn ôl gwasanaeth newyddion TASS Rwsia.
Dywedodd Awdurdod Hedfan Sifil Rwsia bod Yevgeny Prigozhin ar restr teithwyr yr awyren a chwalodd ddydd Mercher.
“Mae ymchwiliad wedi dechrau i’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd heno yn rhanbarth Tver. Yn ôl y rhestr teithwyr, yn eu plith mae enw a chyfenw Yevgeny Prigozhin,” meddai'r awdurdod hedfan.
Mae sianel Telegram Grey Zone sydd â chysylltiadau gyda Yevgeny Prigozhin wedi dweud ei fod wedi marw, ond does dim cadarnhad o hynny eto.
Roedd yr awyren yn cario saith o deithwyr a thri aelod o'r criw, medden nhw, ac maen nhw i gyd wedi marw.
Fe wnaeth Yevgeny Prigozhin arwain gwrthryfel byrhaedlog yn erbyn arweinwyr milwrol Rwsia ym mis Mehefin.
Dywedodd Martin Morgan o adran glustfeinio'r BBC wrth raglen Newyddion S4C: "Roedd mwyafrif y bobl wedi synnu bod Prigozhin dal yn fyw.
"A hynny ar ôl ei chwyldro byrhoedlog yn erbyn yr Arlywydd Putin nôl yn mis Mehefin."