Cyn-bennaeth NatWest i dderbyn £2.4m ar ôl ymddiswyddo wedi ffrae dros gyfrif Nigel Farage
Bydd cyn-bennaeth banc y NatWest yn derbyn £2.4 miliwn, fis yn unig wedi iddi ymddiswyddo yn dilyn ffrae dros gyfrif Nigel Farage.
Roedd y Fonesig Alison Rose yn bennaeth ar y cwmni am bedair blynedd fel prif weithredwr, ond rhoddodd y gorau i'w swydd ar 25 Gorffennaf yn dilyn ffrae dros gau cyfrif cyn-arweinydd Ukip Mr Farage gyda chwmni bancio Coutts, sy’n berchen i grŵp NatWest.
Mae'r cwmni wedi dweud y byddant yn parhau i adolygu ei chyflog a'i thaliadau bonws mewn cysylltiad â'i gweithredoedd yn ymwneud â'r ffrae dros gyfrif Nigel Farage.
Ymddiswyddodd ar ôl cyfaddef iddi wneud camgymeriad wrth drafod y berthynas rhwng Nigel Farage â’r banc preifat gyda newyddiadurwr y BBC, drwy ryddhau gwybodaeth nad oedd yn ffeithiol gywir i'r BBC am Mr Farage a’i gyfrifon banc personol.
Ddydd Mercher, dywedodd y cwmni y bydd Ms Rose yn derbyn cyflog o £1.155 miliwn ar gyfer y flwyddyn, £1.155 miliwn mewn cyfranddaliadau dros gyfnod o bum mlynedd ac £115,566 mewn taliadau pensiwn.
Y gred yw fod cyfanswm y taliadau yn werth tua £2.43 miliwn.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: "Bydd cyfnod rhybudd Ms Rose a'r taliadau y bydd yn parhau i'w derbyn ar gyfer y cyfnod hwn yn cael eu hadolygu'n barhaus wrth ystyried yr ymchwiliadau mewnol ac allanol yn ymwneud â threfniadau cau cyfrif gyda Coutts a digwyddiadau cysylltiedig."
Dywedodd llefarydd ar ran NatWest: "Fel pob cyflogwr arall, tra ein bod ni'n aros am ganlyniad yr ymchwiliad, mae Alison ar hyn o bryd yn derbyn ei thâl sefydlog.
"Fel sydd eisoes wedi cael ei gadarnhau, ni fydd unrhyw benderfyniad ar ei thâl, hyd nes bod yr ymchwiliadau priodol ar ben."
Cyhoeddodd NatWest y bydd Paul Thwaite, sydd yn olynu'r Fonesig Rose y flwyddyn nesaf, yn derbyn cyflog ychydig yn llai na'i rhagflaenydd.