Cais i droi capel yn Y Groeslon yn gaffi a llety gwyliau
Mae cynlluniau wedi eu cyflwyno i drawsnewid capel Cymraeg yng Ngwynedd yn siop goffi a llety gwyliau newydd.
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais cynllunio llawn i drawsnewid hen Gapel Bryn Rodyn ger pentref Y Groeslon.
Mae’r safle ar yr hen ffordd rhwng Penygroes a Chaernarfon.
Mae’r cynnig wedi ei gyflwyno gan Steffan Huws o gwmni coffi Poblado. Mae'r ymgeisydd eisoes yn rhedeg y cwmni rhostio coffi Y Barics yn Nantlle.
Mae cynlluniau’r capel hefyd yn dangos newid defnydd yr hen gapel i fod yn gaffi a siop goffi.
Yn rhan o’r cynnig hefyd, mae cynllun i ddatblygu llety gwyliau tymor byr ar lawr cyntaf yr adeilad presennol.
Mae’r cais cynllunio hefyd yn nodi safle ar gyfer rhostio ffa coffi, canolfan ymwelwyr a hyfforddiant barista.
Yn ôl gwefan Coflein, cafodd y Capel ei adeiladu gan y pensaer Richard Owen o Lerpwl ym 1773. Ar un adeg roedd y man addoli yn adeilad mwy o faint, ond dros y blynyddoedd bu llawer o newidiadau i’r safle gwreiddiol.
Cafodd addasiadau hefyd eu gwneud ym 1798 a 1830, a chafodd y capel ei ail adeiladu ym 1869.
Yn ddiweddar, mae arolwg o'r adeilad gwag wedi darganfod adar y to yn nythu yno.
Mae arolwg ystlumod hefyd wedi ei gynnal. Datgelodd yr arolwg hwn bod “adrannau o’r adeiladau y bwriedir eu datblygu yn cael eu defnyddio gan ystlumod sy’n clwydo.”
Cafodd tri math gwahanol o ystlumod ei nodi yn yr arolwg, sy'n awgrymu bod yr adeilad gwag bellach yn glwydfan ddydd a nos i’r rhywogaethau.
Yn sgil hynny, cyn i unrhyw waith trawsnewid ddechrau, fe fydd angen gwneud cais am Drwydded Ewropeaidd i Warchod Ystlumod.